ROBERTS, JOHN HERBERT, BARWN CLWYD o ABERGELE (1863 - 1955), gwleidydd

Enw: John Herbert Roberts
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1955
Priod: Hanna Rushton Roberts (née Caine)
Rhiant: Catherine Tudor Roberts (née Hughes)
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn 61 Hope Street, Lerpwl, 8 Awst 1863, yn fab i John Roberts, Lerpwl a Bryngwenallt, Abergele (A.S. dros fwrdeistref Fflint, 1878-92), a'i wraig Catherine Tudor, merch John Hughes (1796 - 1860) gweinidog (MC), Lerpwl. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. yn 1884 ac M.A. yn 1888. Cyhoeddodd A world tour ar ôl treulio blwyddyn (1884-85) yn teithio'r byd, Ymweliad â Bryniau Kasia (ail arg. 1888), ac ymddangosodd ' Tro yn yr Aifft ' yn Y Traethodydd, 1896. Aeth i fyw i Abergele a bu'n ddiacon am 68 mlynedd yng nghapel Mynydd Seion (MC), ond daliodd gysylltiad â Lerpwl am gyfnod fel cyfarwyddwr cwmni David Roberts, adeiladwyr a marchnatwyr coed, a sefydlwyd gan ei daid.

Fel A.S. (Rh.) dros Orllewin Dinbych (1892-1918) yr oedd yn un o Gymry ieuainc dawnus, fel T.E. Ellis a David Lloyd George. Cymerai ddiddordeb arbennig ym materion India a'r mudiad dirwest. Bu'n aelod o Gyngres Genedlaethol India, a chadeirydd ei phwyllgor Prydeinig. Bu'n llywydd Cymdeithas Ddirwestol Gogledd Cymru am flynyddoedd, ac yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar y Deddfau Trwyddedu 1896-99. Ei dad a gyflwynodd fil cau tafarnau Cymru ar y Sul, a cheisiodd yntau ychwanegu deddfwriaeth wahanol i Gymru i gryfhau'r ddeddf. Cefnogodd fesurau datgysylltiad a bu'n gomisiynydd ar eiddo'r Eglwys Esgobol yng Nghymru o 1914. Bu'n ysgrifennydd i'r Blaid Ryddfrydol Gymreig ac yn gadeirydd, 1912-18. Yn 1922 bu'n aelod o Gomisiwn ysbytai gwirfoddol Cymru. Fe'i crewyd yn farwnig yn 1908 a dyrchafwyd ef yn Farwn Clwyd o Abergele yn 1919. Teithiai'n gyson o Abergele i Dŷ'r Arglwyddi tan oedd dros 90 mlwydd oed. Gwnaeth wasanaeth mawr mewn bywyd cyhoeddus na chlywodd y cyhoedd lawer amdano.

Priododd yng nghapel Clapham (A), 1 Awst 1893 â Hanna Rushton, merch William Sproston Caine, A.S. a gafodd ddylanwad trwm arno. Bu iddynt dri mab a bu farw, 19 Rhagfyr 1955, yn Nhan-yr-allt, Abergele.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.