Ganwyd yn Llwyn-yr-hwrdd, Penfro, 12 Mai 1880, mab John Stephens, gweinidog Annibynnol Llwyn-yr-hwrdd a Bryn-myrnach, a Martha ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Tegryn, ysgol sir Aberteifi, y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin (1900-02, 1906-09), Coleg y Brifysgol, Caerdydd (1902-06), Coleg Cheshunt, Caergrawnt (1909-12). Cafodd yrfa ddisglair; enillodd fwy nag un ysgoloriaeth ac ar ddechrau ei gwrs paratoawl yn y Coleg Presbyteraidd cyn mynd yn ei flaen i'r brifysgol cyfeiriodd un o'r arholwyr allanol ato fel gŵr ifanc o alluoedd anghyffredin. Graddiodd yn B.A. (anrhydedd mewn Athroniaeth), B.D. (Cymru), M.A. (Caergrawnt); yng Nghaergrawnt bu'n fyfyriwr i Syr James George Frazer. Yn 1912 ordeiniwyd ef yn weinidog heb ofal eglwys yn Llwyn-yr-hwrdd ac yn y flwyddyn honno fe'i hapwyntiwyd i Gadair Athroniaeth y Coleg Presbyteraidd. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ddysgu athrawiaeth Gristionogol, hanes crefyddau a moeseg Gristnogol a bu'n gyfrwng i ddwyn perswâd ar gyfadran diwinyddiaeth Prifysgol Cymru i sefydlu cwrs mewn moeseg Gristnogol yn annibynnol ar athrawiaeth Gristnogol. Dros gyfnod o bum mlynedd a deugain fel athro a dysgawdr cyflwynodd i genedlaethau o fyfyrwyr batrwm o ysgolheictod a diwylliant a oedd ymhell tu hwnt i ffiniau'r pynciau a ddysgid ganddo. Yr oedd yn hyddysg yn llenyddiaeth Gymraeg, Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg ac mor gynnar ag 1914 plediodd dros roi mwy o sylw i'r celfyddydau cain yng Nghymru (gweler ' Y prydferth yng Nghymru ', Y Geninen, Hydref 1914). Yn 1916 derbyniodd alwad i ofalu am eglwys Heol Undeb, Caerfyrddin; gwasanaethodd hi am un mlynedd a deugain. Bu'n llywydd Undeb yr Annibynwyr, 1942-43 ac yn ddeon cyfadran diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1955-57.
Cyfrannodd yn helaeth i'r cyfnodolion Cymraeg: yn Y Geninen yn ychwanegol at yr adolygiadau a'r portreadau o wŷr megis George Essex Evans, Dewi Emrys, Dylan Thomas a Dyfnallt ceir ganddo gyfieithiad o stori fer Guy de Maupassant, ' Le Retour ' - ' Y Dychweliad ' (Ionawr 1921), gwerthfawrogiad cynnes o gyfraniad yr Athro Edmund Crosby Quiggin, yr ysgolhaig Celtaidd, ac astudiaeth ar ' Y Celtiaid a rhyfela ' (Haf 1956 : trosiad gan D. Eirwyn Morgan o ' Keltic War Gods ' a gyhoeddwyd yn Religions, Gorffennaf 1941). Trwy gyfrwng ei gyfraniadau cyson yn Y Tyst cyflwynodd feddyliau a golygiadau gwŷr fel Henri Bergson, Nicolas Berdyaev, Karl Barth a Leonhard Ragaz, ac yn y golofn ' Myfyrgell y Diwinydd ' a ddechreuodd yn Chwefror 1939 trafododd yn ddeheuig doreth o bynciau yn cynnwys astudiaethau manwl ar ' Grefydd fore Ewrob ', ' Gwareiddiad cynharaf Ewrob ' ac ' Ystyr ddwyfol hanes '. Yn Y Dysgedydd (Ionawr, Awst, Tachwedd 1955; Gorffennaf 1956) ymdriniodd â chyfraniad rhai o brif ddiwinyddion athronyddol Rwsia ac yn y cylchgrawn Religions (Hydref 1940) cyhoeddwyd un o'i gyfraniadau mwyaf nodedig, ' The True Quality of Prayer '. Yn 1940 ef a draddododd yr Upton Lectures a dewisodd yn bwnc ' Crisis ', mewn seicoleg gymdeithasol. Cyfrannodd hefyd erthyglau yn ymwneud â chymdeithaseg, egwyddorion Annibyniaeth ac â Chymry Awstralia. Ym mis Tachwedd 1927 hwyliodd i Awstralia i geisio adennill ei iechyd; croniclodd hanes ei daith yn 'Blwyddyn yn Awstralia' (Y Dysgedydd, Chwefror 1931 - Mawrth 1932) ac mewn llyfr taith sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 20591C ) - dwy ffynhonnell amhrisiadwy i'r sawl sydd am wybodaeth ynglŷn â chysylltiadau Cymraeg a Chymreig y cyfandir hwnnw. Ceisiwyd ei ddenu i ymgartrefu yno, ond dychwelodd i Gaerfyrddin ac i Gymru i gyfoethogi ei bywyd a'i diwylliant fel athro, diwinydd ac athronydd, a thrwy rym ei bersonoliaeth riniol i'w harddu hefyd. Bu farw 10 Mawrth 1957.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.