Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

WILLIAMS, DAVID PRYSE ('Brythonydd '; 1878 - 1952), gweinidog (B), llenor, a hanesydd

Enw: David Pryse Williams
Ffugenw: Brythonydd
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1952
Priod: Annie Lydia Rhys (née Morgan)
Rhiant: Elizabeth Williams (née Jones)
Rhiant: Ivor Pryse Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (B), llenor, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd Dydd Gwyl Ddewi 1878 a'i fagu yn y Wenallt, plwyf Troed-yr-aur (Trefdreyr), Ceredigion, ei dad Ivor Pryse Williams (1850 - 1920) yn fab i'r offeiriad llengar Benjamin Williams ('Gwynionydd '; 1821 - 1891, a'i fam Elizabeth yn ferch i deulu o Fedyddwyr yn eglwys Bethel, Dre-fach Felindre, a dau o'i brodyr, David Phillip Jones (1850 - 1884), Felingwm a Llanfynydd, a Samuel Jones (1857 - 1935), Llaneirwg, wedi eu codi i'r weinidogaeth. Dilyn ei fam i gorlan y Bedyddwyr wnaeth y mab, dechrau pregethu yn 1903 a llwyddo gyda chlod y flwyddyn wedyn yn arholiadau'r enwad. Derbyniwyd ef yn 1908 i Goleg Efengylaidd (Bedyddiedig gan mwyaf) Dunoon yn Kirn, swydd Argyll, ac ar ben cwrs dwy flynedd ordeiniwyd ef, 21 Mai 1910, yn weinidog Ffynnonhenri, a'i gofrestru i fwrw dwy fl. ran-amser yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin wrth draed M.B. Owen (1875 - 1949. Symudodd yn 1913 i Philadelphia, Abertawe (gan dreulio ysbaid fer yn ystod Rhyfel Byd I gyda'r Y.M.C.A. yn swydd Gaint), ac oddi yno yn 1920 i Libanus, Treherbert, lle'r arhosodd weddill ei oes yn uchel ei barch a'i ddylanwad. Gartref y bwriodd ei fywyd hyd at ei 30 oed, yn llenydda ac eisteddfota ac yn chwilota hanes y darn gwlad sy'n ymestyn o Gastellnewydd Emlyn i gyfeiriad y môr ym mhlwyf Penbryn, ac er gwaethaf pyliau mynych o wendid corff mae'n ddiau mai degawd cyntaf y ganrif oedd blynyddoedd mwyaf toreithiog ei ymchwil. Cyhoeddodd ffrwd o gerddi, ysgrifau a nodiadau ym mhapurau wythnosol Aberteifi ac Aberystwyth a chylchgronau megis Seren Gomer, Yr Athraw, Archæologia Cambrensis, Byegones a'r Geninen, ond ni chyhoeddwyd ei draethawd ar Hanes Cenarth a wobrwywyd gan Syr John Rhys yn eisteddfod Castellnewydd Emlyn yn 1902. Yn y cyfnod hwn bu'n gohebu â nifer o brif ysgolheigion Cymraeg y dydd. Yn ystod ei gyfnod yn Nhreherbert llwyddodd i warchod archifau swyddogol y capel ac ysgrifennodd Canmlwyddiant Libanus … braslun o'r hanes [ 1950 ]. O'i ddyddiau cynnar bu'n weithgar yn achub llyfrgelloedd enwogion a chyfoedion, ac ar brydiau'n troi'r deunydd yn sail cofiannau, e.e. ei daid ' Gwynionydd '; David James, ' Defynnog ' (1865 - 1928), Lewis Jones, y cerddor o Dreherbert (bu farw 1882), William Evans Davies (1861 - 1945), Drefach, Rees Price (bu farw 1896), Cilfowyr, John Gomer Lewis (1844 - 1914) a David Price (1865 - 1931), ill dau o Abertawe, ac Anthony Williams (1845 - 1913), Ystrad Rhondda; ac atynt hwy Rhys Jones Lloyd (1827 - 1904), mab plas y Bronwydd yn Llangunllo, rheithor Troed-yr-aur, a'i gymydog helyntus o Annibynnwr Thomas Cynfelyn Benjamin (1850 - 1925), Pen-y-graig, y bu D. P. W. â rhan yn y gwaith o godi carreg fedd iddo ym mynwent Llethr-ddu, Trealaw.

Priododd, 1 Hydref 1941, yn y Tabernacl, Caerdydd, ag aelod o'i eglwys, Annie Lydia, unig ferch David a Jane Morgan, Cedrwydd, Treherbert, dirprwy brifathrawes Ysgol Gynradd Penyrenglyn ac ysgrifenyddes Cymdeithas Cymrodorion Treherbert. Bu ef farw yn sydyn yn Ysbyty Church Village, 27 Hydref 1952 a'i gladdu yn Amlosgfa Glyn-taf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.