JONES, DAFYDD RHYS (1877 - 1946), ysgolfeistr a cherddor

Enw: Dafydd Rhys Jones
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1946
Priod: Daisy Jones (née Jones)
Priod: Jane Jones (née Morgan)
Rhiant: Rachel Jones (née Williams)
Rhiant: Dafydd Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a cherddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Evan David Jones

G. 10 Meh. 1877, ym Maes Comet, Drofa Dulog, Patagonia, yn un o ddeg o blant Dafydd Jones a Rachel (g. Williams) ei wraig. Yr oedd y tad yn y fintai gyntaf i lanio ar draethau Patagonia. Hanai o ardal Blaen-porth, Cer., o'r un teulu â John Jones, Blaenannerch (1807 - 1875;). Ymfudasai teulu'r fam o Brynmawr i'r wladfa Gymreig yn Rio Grande yn Brazil ac yr oedd hi'n rhugl mewn Portwgaleg a Chymraeg. Pan chwalwyd y wladfa fechan honno symudasant i Batagonia. Yr oedd y nain yn gymeriad nodedig yn hanes crefyddol y Wladfa ac yn un o sefydlwyr achos y MC yn Nhre-lew. Etifeddodd ei hwyr lawer o'i nodweddion anturus hi.

Wedi bod yn ysgol Richard Jones Berwyn danfonwyd y llanc 15 oed drosodd i gael addysg yng Nghymru, yn ysgol fwrdd Aberteifi, ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ac ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn. Yng Nghastellnewydd yr oedd ganddo gyfoedion o Bont-rhyd-y-groes, William a David Davies, ac ar wyliau gyda hwy y dechreuodd ei gysylltiad maith â'r fro honno. Yng Ngholeg Aberystwyth y bu'n paratoi am dystysgrif athro, a bu'n athro yng Nghorris, Bryn-mawr, ac Aberdâr. Ym mis Rhag. 1902 ymadawodd ag ysgol bechgyn y Comin, Aberdâr, i gymryd gofal ysgol Cwmystwyth. Yn niwedd mis Mawrth 1906 gadawodd Gwmystwyth a dychwelyd i Batagonia i fod yn brifathro cyntaf yr ysgol ganolradd yno. Rai wythnosau ynghynt ymwelsai Eluned Morgan â'r ysgol yng Nghwmystwyth ac annerch y disgyblion yno. Mae'n debyg fod cysylltiad rhwng yr ymweliad hwn â phenodiad y prifathro i'r ysgol yn y Gaiman, lle y treuliodd wyth mlynedd yn fawr ei lwyddiant a'i ddylanwad. Yn 1914 yr oedd yn ôl ym Mhrydain ac yn athro yn Henffordd. Yr oedd G.J. Williams prifathro ysgol Cwmystwyth (a chefnder i'r Athro Griffith John Williams) wedi ei alw i'r fyddin, a phrifathrawon dros dro yn cymryd ei le. Yn Ion. 1917 yr oedd Dafydd Rhys yn dechrau ar ail dymor fel prifathro yn ei hen ysgol, a bu yno nes i'r prifathro parhaol ddychwelyd yn niwedd Ion. 1920, a thrachefn am rai wythnosau yn Ebr. a Mai wedi i G.J. Williams gymryd swydd gyffelyb ym Mhontrhydfendigaid. Yna penodwyd ef yn brifathro ysgol Ysbyty Ystwyth ac yno y bu nes cyrraedd oedran ymddeol yn 1941.

Yr oedd yn eisteddfodwr brwd a bu'n arweinydd côr plant enwog a chôr cymysg Pont-rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth am dros ugain ml. a chipio gwobrwyon lawer. Yr oedd yn adroddwr gwych a galw mawr arno mewn cyngherddau, ac fel beirniad cerdd a llên mewn eisteddfodau. Cefnogai'r ddrama gan fod yn weithgar ar lwyfan ac fel beirniad, gan gydweithio â'i gyfaill David Joshua Davies, awdur Maesymeillion. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd addysgol Ceredigion a bu'n gadeirydd undeb athrawon y sir. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol cydnabyddedig gyda'r Annibynwyr (ei aelodaeth yn eglwys Baker Street (Seion), Aberystwyth). Buasai'n pregethu yn y Wladfa hefyd, a rhoddai ei wasanaeth i eglwysi pob enwad. Yr oedd yn genedlaetholwr cadarn, a bu'n weithgar dros Undeb Cymru Fydd fel cadeirydd cylch y Glennydd am flynyddoedd. Gwnaeth lawer i feithrin cyfathrach rhwng Cymru a Phatagonia. Ei syniad ef oedd sefydlu Cymdeithas Cymry Ariannin yn yr Eist. Gen. yn Ninbych yn 1939, a gwnaethpwyd ef yn llywydd arni.

Wedi ymddeol bu'n ffermio ym Maesybeudy, Pont-rhyd-y-groes, a chymerai ddiddordeb arbennig mewn amaethyddiaeth.

Bu'n briod ddwywaith: (1) yn 1902 â Jane merch John a Mari Morgan, Hafodnewydd, a fu f. yn 1904; bu iddynt un ferch; (2) yn 1927 â Daisy merch John a Jane Jones, Llundain. Bu f. 9 Ion. 1946, a chladdwyd ef ym mynwent Ysbyty Ystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/