JONES, THOMAS ROBERT ('Gwerfulyn '; 1802 - 1856), sefydlydd mudiad dyngarol y Gwir Iforiaid

Enw: Thomas Robert Jones
Ffugenw: Gwerfulyn
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1856
Priod: Elizabeth Jones (née Price)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sefydlydd mudiad dyngarol y Gwir Iforiaid
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Huw Walters

Ganwyd ym Maes Gwerful, Llannefydd, Dinbych, yn 1802. Yn grydd wrth ei alwedigaeth bu'n dilyn ei grefft yn Rhiwabon, y Cefn-mawr a Llansantffraid Glyndyfrdwy, lle priododd ag Elizabeth, merch Evan Price, gweinidog (B) yn Llanfyllin yn 1834. Sefydlodd gymdeithasau Cymreigyddol ymhob un o'r ardaloedd hyn a bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgronau Cymraeg y Bedyddwyr. Cafodd y syniad o sefydlu cymdeithas a fyddai'n cynorthwyo ei haelodau yn ariannol yn ogystal â diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mynegodd Robert Davies, ' Bardd Nantglyn ', a William Owen Pughe eu parodrwydd i'w noddi ond bu farw'r ddau cyn cael cyfle i'w helpu. Mentro ymlaen a wnaeth Jones gan sefydlu ' Cymdeithas Undebawl a Gomeraidd dan arwydd y Drylliau Croesion ' yn Wrecsam ar 6 Mehefin 1836. Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y gymdeithas yn y cyfnod cynnar hwn, ond erbyn 1838 yr oedd aelodaeth y gyfrinfa gyntaf yn 252, deuddeg cyfrinfa arall wedi'u sefydlu yn y gogledd, a chyfrinfa gyntaf y de wrth yr enw ' Dewi Sant ' wedi ei hagor yng Nghaerfyrddin ar 24 Ebrill y flwyddyn honno. Ond cododd annealltwriaeth rhwng T. R. Jones a'r mudiad erbyn Mehefin 1840, ymadawodd â chyfrinfa'r Drylliau Croesion a sefydlodd gyfrinfa sbeit. O ganlyniad penderfynodd cyfrinfa Dewi Sant a'r Undeb a dyfodd o'i chwmpas mai hi bellach oedd prif gyfrinfa Cymru gyfan a bu brwydro ffyrnig rhyngddi hi ar y naill law a T. R. Jones a'i ganlynwyr ar y llaw arall. Ond cyfrinfa Dewi Sant a orfu yn y diwedd ac yn 1845 symudwyd canolfan y mudiad o Gaerfyrddin i Abertawe. Yr oedd Iforiaeth (a alwyd wrth enw Ifor ap Llywelyn - neu Ifor Hael o Fasaleg) bellach ar gynnydd trwy Gymru, a gellir ystyried y cyfnod rhwng 1840 ac 1850 fel oes aur y gymdeithas. Yr oedd gan yr Urdd reolau pendant i aelodau ynglŷn â moesau ac ymddygiad, coleddai'r Gymraeg, ac yn y cyfnod rhwng 1850 ac 1870 ni bu blwyddyn bron heb eisteddfod Iforaidd. Ond odid mai'r gweithgarwch diwylliannol hwn a esyd y mudiad mewn dosbarth ar ei ben ei hun ymhlith ei gymheiriaid, ac nid cynorthwyo'r tlawd a'r anghennus oedd ei unig amcan. Er i T. R. Jones sefydlu cyfrinfa arall a chymryd arno i ddewis swyddogion i bob talaith yng Nghymru, edwino a wnaeth ei ddylanwad ar ôl 1845. Treuliodd y ddwy fl. olaf o'i oes yn Birkenhead lle bu farw gan adael gweddw a phedwar o blant ym Mai 1856.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.