HOOSON, TOM ELLIS (1933-1985), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Tom Ellis Hooson
Dyddiad geni: 1933
Dyddiad marw: 1985
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 16 Mawrth 1933, yn fab i'r ffermwr David Maelor Hooson ac Ursula Ellis Hooson ei wraig. Roedd yn gefnder i Emlyn Hooson (ganwyd 1925), y cyn-Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros sir Drefaldwyn, 1962-79, ac yn or-nai i Thomas Edward Ellis (1859-1899), yr AS Rhyddfrydol dros sir Feirionnydd, 1886-99, a'r bardd Cymraeg I. D. Hooson (1880-1948). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Rhyl a Choleg y Brifysgol, Rhydychen (lle graddiodd yn MA. Galwyd ef i'r bar o Gray's Inn, ac yna enillodd ei fywoliaeth fel newyddiadurwr ar y Times. Gwasanaethodd yn swyddog gweithredol i Gwmni Prentis a Varley, 1958-61, ac i gwmni Benton a Bowles, 1961-76, lle daeth yn is-lywydd hŷn â chyfrifoldeb dros weithgareddau yn Ewrop. Aeth y gwaith hwn ag ef i'r Unol Daleithiau ac i Ffrainc. Hooson oedd sylfaenydd Welsh Farm News ym 1957, a bu'n gadeirydd ar y Bow Group, 1960-61, corff y teimlai ymrwymiad arbennig iddo, a Crossbow. Bu'n is-lywydd ar Ffederasiwn Cymdeithasau Ceidwadol ac Undebol y Brifysgol, 1960-61. Roedd ei yrfa mewn hysbysebu, cyhoeddi a marchnata yn arbennig o lwyddiannus.

Safodd Tom Hooson yn ymgeisydd dros y Ceidwadwyr yn etholaeth sir Gaernarfon yn etholiad cyffredinol 1959 pan wrthwynebodd Goronwy O. Roberts, yr AS Llafur dros yr etholaeth. Ar wahoddiad personol arweinydd ei blaid Margaret Thatcher, derbyniodd Hooson y swydd o Gyfarwyddwr Cyfathrebu dros y Blaid Geidwadol ym 1976, a pharhaodd yn y swydd honno am ddwy flynedd. Daeth wedyn yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cymdeithas Cyhoeddwyr Cylchgronau ym 1978. Cipiodd sedd Brycheiniog a Maesyfed dros y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 1979 a daliodd ei afael ynddi hyd at ei farw ar 8 Mai 1985 yn ei gartref yn Chelsea, Llundain, ar ôl brwydro'n hir yn erbyn cancr. Roedd yn dal i weithio, yn llofnodi llythyrau i'w etholwyr, o fewn ychydig oriau i'w farwolaeth. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Roedd amryw yn ei ystyried yn un swil ac yn un a weithredai ar ei liwt ei hun yn San Steffan. Ond rhoddai sylw'n arbennig i anghenion uniongyrchol ei etholwyr ac enillodd barch fel AS da dros ei etholwyr. Yn yr is-etholiad a ddilynodd ei farwolaeth, Richard Livsey a'r Democratiaid Cymdeithasol a gipiodd y sedd. Cyhoeddodd ar y cyd Work for Wales (1959) a chyfrannodd at Lessons from America (1970). Ei hobïau oedd cerdded, hwylio, tennis a darllen. Ni fu erioed yn briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.