Ganed ef ar 26 Mawrth 1925 yn fab i Hugh ac Elsie Hooson, Colomendy, sir Ddinbych, i deulu Cymreig nodedig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dinbych a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn y Gyfraith ym 1949. (Penodwyd ef yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth flynyddoedd yn ddiweddarach ym 1997.) Ym 1950 priododd Shirley Margaret Wynne Hamer, merch Syr George Hamer CBE, Llanidloes, ffigwr amlwg a dylanwadol yn yr ardal, a Rhyddfrydwr grymus yng ngwleidyddiaeth Sir Drefaldwyn, lle gwasanaethodd fel Arglwydd Lefftenant. Bu iddynt ddwy ferch, Sioned a Lowri. Addysgwyd y ddwy ohonynt yn Ysgol Gymraeg Llundain, lle daeth eu tad yn gadeirydd y Corff Llywodraethol. Roedd wedi gwasanaethu yn y Llynges Brydeinig (Adran Awyr y Llynges) o 1943 hyd 1946, gan wasanaethu ar osgorddlong yng ngogledd yr Atlantig. Roedd yn Gymro Cymraeg, ac yn gefnogwr brwd i achosion Cymreig a hawliau cenedlaethol Cymru drwy gydol ei fywyd.
Galwyd Emlyn Hooson i'r Bar yn Gray's Inn ym 1949, a phenodwyd ef yn Gwnsler y Frenhines (QC) ym 1960 pan nad oedd ond yn 35 mlwydd oed, y penodiad ieuengaf o'i fath ers degawdau. (Daeth yn ddiweddarach yn Feinciwr o Gray's Inn ym 1968, a gwasanaethodd fel Is-Drysorydd yno ym 1985 a Thrysorydd ym 1986). Ei gryfderau arbennig o flaen barnwr a rheithgor oedd trylwyredd ei waith paratoi, eglurder a miniogrwydd ei ddadleuon, a'i allu i fynd yn syth at wraidd unrhyw ddadl gyfreithiol - ynghyd â'i bersonoliaeth argyhoeddiadol ac atyniadol. Fel Cwnsler y Frenhines, bu Hooson yn cynrychioli Ian Brady, un o 'Lofruddwyr y Gweundiroedd', ynghyd â Myra Hindley, pan roddwyd Brady ar brawf a'i ddedfrydu ar dri achos o lofruddio yn Llys y Goron yng Nghaer yng ngwanwyn 1966. Ym 1970 ymddangosodd Emlyn Hooson ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn ymchwiliad cyhoeddus ynghylch cynlluniau i symud ei faes saethu arbrofol o Shoeburyness i Benbre, ger Caerfyrddin. Roedd Emlyn Hooson yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter sir y Fflint, 1960-72, yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Sir Feirionydd, 1960-67, ac yna yn Gadeirydd arno, 1967-72. Penodwyd ef yn Gofiadur Merthyr Tudful yn gynnar ym 1971 ac yn Gofiadur Abertawe yng Ngorffennaf yr un flwyddyn. Etholwyd ef yn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer, 1971-74.
Etholwyd Emlyn Hooson yn Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn mewn isetholiad a ymladdwyd yn frwd ym mis Mai 1962, ac a achoswyd gan farwolaeth cyn-arweinydd y blaid Clement Edward Davies. Mwyafrif Hooson yn yr etholaeth ym 1962 oedd 7549 o bleidleisiau - er mawr syndod i amryw. Llwyddodd i dreblu mwyafrif y Rhyddfrydwyr yno yn yr isetholiad, gan ddymchwel y syniad a gredwyd gan amryw yn y sir mai pleidlais bersonol gref a sicrhaodd ailethol Clement Davies yno. Cyn hynny dewiswyd Hooson fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer hen etholaeth Lloyd George sef Bwrdeistrefi Caernarvon (sedd a ddiddymwyd gan y Comisiynwyr Ffiniau ym 1948), ac yna safodd yng Nghonwy yn aflwyddiannus ar ran ei blaid yn etholiad cyffredinol 1950, pan orchfygwyd ef gan yr ymgeisydd Llafur yno, ac eto yn etholiad cyffredinol 1951, pan orfu'r Ceidwadwyr yno. Yn ystod y 1960au cynnar fe brofai'r Blaid Ryddfrydol adfywiad cenedlaethol ar raddfa fechan a amlygwyd yn bennaf mewn buddugoliaeth ysblennydd adeg isetholiad Orpington ym mis Mawrth 1962. Er iddo barhau â'i weithgarwch proffesiynol fel bargyfreithiwr (a bu rhai carfanau o fewn ei blaid yn hynod o elyniaethus iddo fel canlyniad), cymerodd Emlyn Hooson ran flaenllaw yn adfywio ac yn adrefnu ei blaid yng Nghymru ganol y 1960au. Yr oedd (yn wahanol iawn i Jo Grimond, arweinydd y blaid) yn hollol benderfynol na fyddai'r Blaid Ryddfrydol yn dod i gytundeb ffurfiol gyda Llywodraeth Lafur Harold Wilson a etholwyd ym mis Hydref 1964. Roedd ganddo syniadau uchelgeisiol am ddyfodol amlwg i'r Blaid Ryddfrydol fel plaid radicalaidd heb egwyddorion Sosialaidd ym Mhrydain.
Ar ôl hynny, fel edmygydd mawr i 'Appalachian Bill' Lyndon Johnson yn UDA, aeth Emlyn Hooson ati'n llawn egni i lunio cynllun economaidd Rhyddfrydol ar gyfer Cymru. Bu'n flaenllaw yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu'r Blaid Ryddfrydol Gymreig, corff newydd annibynnol, ym mis Medi 1966, cam roedd Hooson yn frwdfrydig iawn yn ei gylch, ac yna gwasanaethodd yn ffyddlon fel cadeirydd y blaid newydd hyd at 1979. Drwy gydol y 1960au roedd yn ymwybodol iawn o her Plaid Cymru a ddeuai'n fwyfwy peryglus drwy'r adeg. Ar 1 Mawrth 1967 cyflwynodd yn y Ty Cyffredin Fesur Llywodraeth Cymru a gynigiodd Senedd fewnol i Gymru. Cyflwynodd hefyd yn y Ty Cyffredin gyfres o fesurau i geisio atal diboblogi, ynghyd â mesurau amrywiol i gefnogi'r iaith Gymraeg. Roedd yn hollol benderfynol na ddylid ystyried unrhyw fath o gytundeb neu bact etholiadol gyda Phlaid Cymru. Yn y cyfamser safodd yn aflwyddiannus yn erbyn Jeremy Thorpe ac Eric Lubbock ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yn Ionawr 1967 yn dilyn ymddeoliad Jo Grimond. Ar ôl ei orchfygu yn y bleidlais gyntaf, cefnogodd Emlyn Hooson ymgeisyddiaeth Jeremy Thorpe yn yr ail bleidlais. Serch hynny, ni fu erioed yn frwd ei gefnogaeth i Thorpe drwy gydol ei gyfnod fel arweinydd.
Llwyddodd Emlyn Hooson i ddal ei afael ar Sir Drefaldwyn mewn pum etholiad cyffredinol yn olynol, gan ennill mwyafrif sylweddol o 4651 o bleidleisiau yn etholiad Chwefror 1974. Rhwng 1966, pan gollodd Roderic Bowen ei sedd i Elystan Morgan yng Ngheredigion, a 1974, Hooson oedd yr unig Ryddfrydwr i gynrychioli sedd yng Nghymru yn y senedd. Edrychai nifer o'i gyd-Aelodau o Loegr arno fel Rhyddfrydwr asgell dde a weithredai'n bennaf ar y llwyfan Cymreig ac fel canlyniad un a oedd braidd yn bell oddi wrth ferw gwleidyddol San Steffan. Ond ar adegau fe fabwysiadodd Hooson safiad arbennig o radical ar faterion cartref, ac ef yn bendant oedd yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol mwyaf parod i ymosod ar bolisïau canoli llywodraeth Geidwadol Ted Heath. Ef yn anad neb a gynrychiolai Ryddfrydiaeth Gymreig radicalaidd y 1960au a'r 1970au. Teimlai'n argyhoeddedig y byddai ei blaid yn atgyfodi yng Nghymru fel olynydd teilwng i'r Blaid Lafur oedd yn mynd fwyfwy ar chwâl. Ar yr un pryd parhaodd Emlyn Hooson i edmygu'n frwd Lloyd George a chynigion radicalaidd ei 'Yellow Book' o'r 1920au.
Er syndod i rai, daeth yn gefnogwr cyndyn i'r cytundeb 'Lib-Lab' rhwng y Prif Weinidog James Callaghan ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol David Steel a ddaeth i fodolaeth ym mis Mawrth 1977, cam a dderbyniodd Hooson dan rwgnach fel gweithred angenrheidiol. Bu hyd yn oed yn weithgar ar y Pwyllgor Ymgynghorol rhwng y Blaid Ryddfrydol a'r Llywodraeth, gan gredu y rhoddai i'w blaid y cyfle i ddinistrio anfantais 'cymhleth yr anialwch'. Bu llawer o fewn y Blaid Ryddfrydol (gan gynnwys nifer Ceidwadol eu hanian yn Sir Drefaldwyn) yn hallt eu beirniadaeth o barodrwydd eu harweinwyr i gadw mewn grym lywodraeth Lafur a oedd, mae'n amlwg, ar fin colli'r dydd. Roedd Hooson ei hun yn dueddol o gefnogi'r symudiad i ddod i ben â'r cytundeb dadleuol yn hydref 1978. Ni lwyddodd Emlyn Hooson chwaith i ennill unrhyw fath o fantais bersonol oherwydd ei gefnogaeth frwd i'r syniad o Gynulliad i Gymru yn ystod 1978-79. O'r holl siroedd Cymreig, cyfanswm Powys oedd yr uchaf oll yn erbyn datganoli ym mhleidlais 1 Mawrth 1979. Ac yn yr etholiad cyffredinol a ddilynodd ym mis Mai, pan welwyd gostyngiad sylweddol yn y bleidlais Ryddfrydol, yn hollol groes i'r disgwyl, collodd Emlyn Hooson ei sedd i'r ymgeisydd Ceidwadol Delwyn Williams o 1593 o bleidleisiau. Daeth teyrnasiad y Rhyddfrydwyr yn y sir, gafael oedd yn dyddio nôl i 1880, i ben braidd yn ddramatig - er siom enfawr i'r Blaid Ryddfrydol yng Nghymru.
Yn fuan ar ôl hynny, aeth Emlyn Hooson i Dy'r Arglwyddi fel barwn am oes, sef yr Arglwydd Hooson o Drefaldwyn a Cholomendy yn sir Ddinbych. Daeth yn flaenllaw yn nhrafodaethau'r Ty ar unwaith, gan gyfrannu'n helaeth at wella'r Ddeddf Iechyd Meddyliol, gwasgu am ddiwygio'r heddlu, ac yn siarad ar ddiwygio'r gyfraith a thrafnidiaeth cyffuriau.
Bu Emlyn Hooson yn Ddemocrat Rhyddfrydol ac yn ffigwr cyhoeddus amlwg ym mywyd Cymru hyd at ei farwolaeth. Am nifer o flynyddoedd ef oedd llefarydd ei blaid yn yr Arglwyddi ar faterion Cymreig, materion cyfreithiol, amaethyddiaeth a materion Ewrop. Bu'n llywydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig o 1983 tan 1986. Pan unodd y Rhyddfrydwyr gyda'r Democratiaid Cymdeithasol ym 1988, cefnogodd ef Alan Beith ar gyfer yr arweinyddiaeth yn erbyn Paddy Ashdown, unigolyn llai gofalus yn ei farn ef.
Ymhlith ei ddiddordebau busnes niferus yr oedd cadeiryddiaeth Ymddiriedolwyr Sefydliad Laura Ashley, 1986-97, a'i aelodaeth ddiflino o 1991 o Gwmni Croesfan Afon Hafren. Parhaodd i ffermio yn fferm Pen-rhiw, Llanidloes, ac i fyw ym Mharc Summerfield, Llanidloes. Gwnaeth ymdrech glodwiw i arbed Gwasg Gee yng nghanol y 1950au, bu'n deyrngar i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am flynyddoedd maith, a chefnogodd nifer fawr iawn o gymdeithasau a chyrff yn Sir Drefaldwyn a thu hwnt. Ar ôl dioddef oddi wrth broblemau iechyd am nifer o flynyddoedd, bu farw Emlyn Hooson ar 21 Chwefror 2012. Adeg ei angladd bu cannoedd o alarwyr yn llenwi ochrau strydoedd Llanidloes er mwyn talu teyrnged i un a ddisgrifiwyd fel 'gwas mawr i bobl Sir Drefaldwyn'. Roedd yn gefnder, er yn elyn gwleidyddol, i Tom Hooson, yr AS Ceidwadol dros etholaeth Brycheiniog a Maesyfed hyd at ei farw ym 1985. Cyflwynwyd archif fawr o bapurau Emlyn Hooson i ofal y Llyfrgell Genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-11-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.