Ganwyd ef ar 12 Mawrth 1914, yn fab i William ac Elizabeth Susan Jones. Eu cartref oedd 5 Teras Harris, Penrhiwceiber yng nghwm Cynon. Addysgwyd ef mewn ysgol uwchradd yn Aberpennar, ond gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Gweithiodd fel cynorthwywr mewn siop, 1928-29, ar y rheilffyrdd, 1929-33, yn ffatri ceir Rootes, 1933-36, ac eto ar y rheilffyrdd, 1936-49. Ymunodd ag Undeb Cenedlaethol Gweithwyr y Rheilffyrdd (yr NUR) yn un ar bymtheg oed gan drefnu ei gyfarfod gwleidyddol cyntaf pan oedd yn 17, a thair blynedd yn ddiweddarach etholwyd ef yn gadeirydd ar gangen Aberdâr yr undeb, ac yntau heb fod ond yn bedair ar bymtheg oed. Fel llawer iawn o'i genhedlaeth, aeth ati i astudio'n dawel yn ei gartref a chyfrannodd yn gyson i'r NUR Magazine. Dechreuodd drefnu cyfarfodydd pan oedd yn ddeunaw oed a gwnaethpwyd argraff arbennig arno pan welodd lowyr yn ciwio i hawlio'r dôl yng nghwm Cynon, dylanwad pwysig ar ei syniadau a'i orwelion gwleidyddol. Ym 1942 gadawodd ei swydd yng ngorsaf Aberaman i symud i Gaerdydd lle bu'n dal nifer o swyddi o fewn Undeb Cenedlaethol Gweithwyr y Rheilffyrdd (NUR), ac etholwyd ef yn aelod o Gyngor Dinas Caerdydd, yr aelod ieuengaf o'r cyngor ar y pryd.
Emrys Jones oedd y trefnydd rhanbarthol amser-llawn, cyflogedig cyntaf ar ran y Blaid Lafur yn y de-orllewin, 1949-60, Gorllewin Canolbarth Lloegr, 1960-65, a gwasanaethodd y Blaid Lafur yng Nghymru o 1965 hyd nes iddo ymddeol ym 1979. Roedd yn gyson yn bresennol yn y 'nosweithiau Cymreig' yng nghynadleddau blynyddol y Blaid Lafur, a datblygodd berthynas glòs â Jim Griffiths AS, y gŵr a ddaeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru ym 1964. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu hefyd yn ysgrifennydd rhanbarth De Cymru o'r Blaid Lafur. Adeiladodd yn gelfydd ar ymdrechion yr ysgrifenyddion rhanbarthol a'i rhagflaenodd, yn fwyaf arbennig Cliff Prothero. Roedd Emrys Jones yn drefnydd arbennig o ymroddgar a chelfydd, a gwnaeth gyfraniad mawr i gynorthwyo'r Blaid Lafur i wrthsefyll sialens cenedlaetholdeb yng nghymoedd de Cymru, yn arbennig adeg is-etholiadau Gorllewin y Rhondda (1967), Caerffili (1968) a Merthyr Tudful (1972). Bu hefyd broblemau mewnol difrifol o fewn y pleidiau Llafur lleol ym Merthyr Tudful a Sir Benfro. Sefydlodd gyfres o weithgorau i edrych ar bynciau llosg ac i ailddiffinio a chynllunio polisïau newydd. Aeth ati hefyd i sicrhau y dylid sefydlu swydd newydd cynorthwywr ymchwil o fewn Transport House, Caerdydd, er mwyn sicrhau na fyddai'n rhaid i'r Blaid Lafur yng Nghymru ddibynnu ar ei phencadlys yn Llundain. Gwnaeth lawer i gyfrannu tuag at lunio polisïau ei blaid ar ddatganoli a'r iaith Gymraeg. Edrychodd ar yr achos dros fesur o ddatganoli fel rhan o ddiwygio llywodraeth leol ac argymhellodd haenen 'Gymreig yn unig' o'r llywodraeth a reolid gan ryw ddeugain o gyrff noddedig. Gallai'r model hwn, ym marn Jones, fod yn gynsail gwerthfawr i'r Alban a thaleithiau hanesyddol Lloegr. Yn wir, ym 1974, anfonwyd Emrys Jones i'r Alban gan arweinwyr y Blaid Lafur i amlinellu sylfaen y polisïau ar ddatganoli a ddatblygwyd o fewn Cymru. Roedd Jones yn hynod o deg wrth ymdrin â'r frwydr o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng cefnogwyr datganoli a'i wrthwynebwyr. Yn ei galon ei obaith oedd y byddai Cymru yn y pen draw yn elwa'n aruthrol o gynulliad wedi'i ethol yn ddemocrataidd ac yn eistedd yng Nghaerdydd. O'r 1970au cynnar ymlaen roedd yn gefnogwr brwd i'r angen i sefydlu sianel deledu i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg, a sefydlodd grŵp ymchwil i ystyried sut y gellid cyflawni hyn orau. Bu'n gwasgu hefyd am ddyfarnu iawndal digonol i chwarelwyr gogledd Cymru a ddioddefai oddi wrth salwch a achoswyd gan glefyd y llwch a'u teuluoedd. Ymladdodd i unioni'r anghysonderau a oedd yn parhau yn dilyn pasio Deddf Diwygio'r Prydlesau, 1967.
Yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 Jones oedd asiant gwleidyddol George Thomas a chynorthwyodd i sicrhau y byddai'r Blaid Lafur yn cipio saith o etholaethau newydd yng Nghymru. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd Plaid Lafur etholaethol Gogledd Caerdydd. Ei ddiddordebau oedd darllen ac ysgrifennu. Priododd ym 1935 Stella, merch T. Davies, gwerthwr papurau newydd yn Ffordd Caerdydd, Aberaman, Aberdâr, a bu iddynt un ferch, Maureen. Cartref y teulu oedd 4 Teras Glancynon, Aberaman o 1936 tan 1942. Yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu'r Blaid Lafur yng Nghymru, roedd y teulu yn byw yng Nghaerffili, ond ar ei ymddeoliad aethant i Hanham ym Mryste, ardal oedd yn gyfarwydd iddo ers iddo weithio yno dros y Blaid Lafur yn y 1950au. Ar ei ymddeoliad ym 1979 dyfarnwyd y CBE iddo. Ei olynydd fel trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru oedd Hubert Morgan. Bu farw Emrys Jones ar 24 Rhagfyr 1991 yn ei gartref ym Mryste.
Roedd gan Emrys Jones bersonoliaeth dawel ac nid oedd yn emosiynol o ran ei natur. Roedd bob amser yn gefnogol i eraill ac yn ddiffuant, gydag ymdeimlad dwfn o ymrwymiad. Roedd hefyd bob amser yn hynod wylaidd, i'r fath raddau fel yr ymddangosai'n ddihyder ar adegau. Roedd yn cadeirio cyfarfodydd yn dawel ac yn effeithiol, gan helpu i sicrhau y byddai ei blaid yn cymryd y penderfyniad cywir. Yn wahanol i Cliff Prothero, ni fu erioed yn chwennych grym a sylw. Fel canlyniad, nid yw ei gyfraniad enfawr i barhau dominyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn cael ei werthfaogi bob amser. Ond ym 1979 gadawodd y Blaid Lafur yng Nghymru mewn cyflwr cymharol iach i wynebu her y dyfodol. Mae'n anffortunus na wnaeth Emrys Jones (yn wahanol i Cliff Prothero eto) erioed lunio cyfrol o atgofion, llyfr a fyddai'n ffynhonnell bwysig i hanesydd y mudiad Llafur yng Nghymru'r ugeinfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.