PROTHERO, CLIFFORD (Cliff) (1898-1990), trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru

Enw: Clifford Prothero
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1990
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Cliff Prothero 23 Medi 1898 yn 7 Robert Street, Ynys-y-bwl i deulu Cymraeg ei iaith, ei dad, William Prothero yn enedigol o'r Clas-ar-Wy (Glasbury), sir Faesyfed a'i fam Alice, o Bontlotyn yng Nghwm Rhymni. Addysgwyd ef yn Ysgol y Bechgyn, Tre-Robert, yn Ynys-y-bwl ond gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed i weithio yn y lofa. Yr oedd ei dad a'i frawd, William Prothero yr ieuengaf, yn gweithio wyth awr y dydd a chwe diwrnod yr wythnos ym Mhwll Glo Lady Windsor am ddau swllt y dydd. Aeth Cliff i weithio i bwll llai o faint o'r enw Darran Ddu. Fel teulu mynychent Gapel y Bedyddwyr Saesneg, Zion, lle y daeth ef o dan ddylanwad dau ddiacon dawnus, William Watkins a Richard Woosnam. Bu dylanwad moesoldeb a gwareiddiad y mudiad Anghydffurfiol yn drwm arno ar hyd ei oes. Yn bedair ar ddeg oed symudodd gyda'i deulu i bentref Glyn-nedd, ac aeth ef ei dad a'i frawd i weithio i lofa Aberpergwm.

Gwirfoddolodd fel milwr i'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917 a bu am gyfnodau yn yr Iwerddon a hefyd ar faes y gad yn Ffrainc. Pan ddychwelodd o'r Rhyfel ailafaelodd yn ei waith fel glöwr ond gwelodd yr adeg honno gyfle euraid i wasanaethu'r Mudiad Llafur oedd yn dechrau ennill tir yng nghymoedd De Cymru. Penderfynoddi roddi ei amser hamdden i weithgareddau Undeb y Glowyr. Yr oedd glofa Aberpergwm yn cyflogi dros fil o lowyr ac o fewn ychydig flynyddoedd cafodd Cliff ei ethol yn Is-gadeirydd y Gyfrinfa. Chwaraeodd ei ran yn Streic Fawr 1926 ac erbyn hynny yr oedd wedi cael ysgoloriaeth yr Undeb i dderbyn hyfforddiant yn y Coleg Llafur yn Llundain, y Coleg a hyfforddodd rai blynyddoedd cyn hynny Aneurin Bevan, Ness Edwards, James Griffiths a glowyr eraill oedd yn tyfu yn arweinwyr yn y maes glo. Yno y bu o 1925 i 1927. Daeth yn ôl i'r lofa yn 1927 ond yn 1936 cafodd ei ddewis gan Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn aelod o ddirprwyaeth o bedwar glöwr i ymweld â meysydd glo'r Undeb Sofietaidd. Y tri arall oedd Will Arthur, Jim Grant a Tom Andrews o Dreharris. Bu'r pedwar i ffwrdd am chwe wythnos a mentrodd Tom Andrews ar fwy nag un achlysur ddefnyddio'r Gymraeg wrth annerch glowyr Sofietaidd er mwyn iddynt ddeall fod Cymru'n wahanol i Loegr a bod ganddi iaith unigryw.

Yn 1937 priododd Cliff Prothero â Violet Elizabeth Thomas, Cymraes o Bontarddulais, merch Llewelyn a Rowenna Thomas. Erbyn hyn enillai ef dair punt yr wythnos fel atalbwyswr yng nglofa Cwm-rhyd-y-gau yn Nghwm Nedd. Caewyd y pwll yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ef waith dros dro fel Swyddog Cymdeithasol i ddelio â phlant oedd wedi'u symud o ddinasoedd Lloegr ac yn derbyn lloches yng ngorllewin Cymru. Erbyn hyn etholwyd ef yn Gynghorydd ar Gyngor Gwledig Castell-Nedd a daeth yn asiant di-dâl i Aelod Seneddol Llafur yr etholaeth, Syr William Jenkins.

Ymgeisiodd yn 1942 am swydd Asiant i'r Blaid Lafur yn siroedd dwyreiniol Lloegr a chafodd ei apwyntio i'r pencadlys yng Nghaergrawnt. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth y newydd trist fod George Morris, Trefnydd y Blaid Lafur ym Morgannwg, wedi ei ladd gan fom cyrch awyr yn ymyl ei gartref yng Nghaerdydd. Perswadiwyd Prothero gan rai Aelodau Seneddol Llafur i ymgeisio am ei swydd, ac yn 1944 apwyntiwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Rhanbarthol Llafur De Cymru. Mewn amser byr daeth yn wr allweddol yn y byd gwleidyddol, yn enwedig ar ôl i'r Blaid Lafur ennill Etholiad Cyffredinol 1945 gyda mwyafrif mawr.

Llwyddodd yn 1947 i uno Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru gyda Chyngor Rhanbarthol Llafur De Cymru oedd mewn bodolaeth oddi ar 1937 i ffurfio Cyngor Rhanbarthol Llafur Cymru. Magodd berthynas dda gydag arweinwyr Llafur Gogledd Cymru, yn arbennig Goronwy O. Roberts a Huw T. Edwards, a chadwodd afael gref ar weithgareddau'r Blaid Lafur yng Nghymru. Paratôdd bapur trafod yn seiliedig ar femorandwm Huw T. Edwards o dan y teitl 'Democratic Devolution in Wales' a'i gyflwyno i bwyllgor gweithredol y Blaid Lafur, yr NEC, am drafodaeth bellach.

Trwy arweiniad James Griffiths yn bennaf, yn cael ei gynorthwyo gan Goronwy Roberts, derbyniodd Plaid Lafur Cymru y cynllun o Gyngor Ymgynghorol i Gymru yn 1948, a pherswadiwyd y Llywodraeth Lafur dan Clement Attlee i roddi sêl ei bendith ar y cam hwn. Pwrpas y Cyngor Ymgynghorol oedd cadw cysylltiad agos rhwng pobl Cymru a'r Llywodraeth ganolog. Enwebwyd Cliff Prothero gan y Cyngor Rhanbarthol fel Cadeirydd y corff newydd, ond mynnodd James Griffiths mai Huw T. Edwards a ddylai fod yn arweinydd Cyngor Cymru. Ni fu edifar ganddo gyflwyno enw Huw T. Edwards yn hytrach na Cliff Prothero i'r Prif Weinidog.

Yn y 1950au cynnar yr oedd Cliff Prothero a mwyafrif aelodau Cyngor Rhanbarthol Llafur Cymru yn hollol wrthwynebus i'r ymgyrch dros Senedd i Gymru. Dadleuai Prothero y dylid ceryddu'r pum aelod Llafur a gymerodd ran yn yr ymgyrch, sef Cledwyn Hughes, Goronwy Roberts, T. W. Jones, Tudor Watkins a S. O. Davies, ond bu'n rhaid iddo wrando ar ddoethineb Huw T. Edwards a graslonrwydd James Griffiths. Ar ôl i James Griffiths gael ei ddewis yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur dechreuodd y datganolwyr Llafur gael y llaw drechaf dros y gwrthwynebwyr fel Iorwerth Thomas, Ness Edwards a George Thomas. Pan lwyddodd James Griffiths i gael Aneurin Bevan i gytuno i bolisi datganoli, cafodd yr alwad am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru gyda sedd yn y Cabinet ei chynnwys yn y maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1959, bu'n rhaid i Cliff Prothero a'r aelodau gwrthwynebus gydymffurfio am y tro. Yn wir, dywed yn ei hunangofiant; 'James Griffiths used all his power as a negotiator in an attempt to persuade other members of this committee of the justice of this cause.'

Cafodd Cliff Prothero dymor llwyddiannus iawn fel prif drefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Aeth ati i drefnu ralïau mawr ar gyfer Cymru gyfan. Cynhaliwyd y gyntaf ohonynt yn y Drenewydd yn 1950 a pherswadiodd Clement Attlee, James Griffiths a Hugh Gaitskell i annerch 5,000 o selogion a ddaeth ynghyd o bob rhan o Gymru. Llwyddodd i gryfhau'r Swyddfa yn Charles Street yng Nghaerdydd a chasglu o'i amgylch drefnyddion ar gyfer y merched, yr undebau a'r ieuenctid. Llwyddodd y Blaid Lafur o dan ei ysgrifenyddiaeth i gryfhau ei gafael yn y Gymru Gymraeg ac erbyn 1957 gwelwyd y rhan fwyaf o'r 'fro Gymraeg' yn nwylo Llafur. Llwyddwyd i ennill etholaethau Caernarfon yn 1945, Meirionnydd yn 1950, Conwy yn 1950; Môn a Penfro yn 1951 a Chaerfyrddin yn 1957. Ef oedd Asiant Is-etholiad Caerfyrddin yn 1957 pan enillodd Megan Lloyd George, a drodd i'r Blaid Lafur ar ôl colli Ynys Môn fel AS y Rhyddfrydwyr yn 1951. Ond y fuddugoliaeth fwyaf nodedig o dan ei arweiniad oedd Aberteifi yn 1966 pan enillodd Llafur o fwyafrif o 523, ac yntau yn Asiant i Elystan Morgan, gwr a ymladdodd bum gwaith fel ymgeisydd seneddol Plaid Cymru cyn troi at y Blaid Lafur. Dychwelodd Prothero o'i ymddeoliad i drefnu yn ddeheuig beirianwaith digon simsan y Blaid Lafur yn Sir Aberteifi. Gwnaeth ei brofiad a'i allu ef fyd o wahaniaeth.

Ymddeolodd ar 28 Chwefror 1965 ar ôl cyfnod hynod o lewyrchus fel trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Mwynhaodd ei ymddeoliad mewn ty o'r enw Hedd Wyn ym Mhenarth. Ysgrifennodd ei atgofion yn y gyfrol Recount a gyhoeddwyd yn 1982.

Yr oedd Cliff Prothero yn wr i'w edmygu yn fawr, gan iddo ddechrau fel glowr yn dair ar ddeg oed, ac ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd adnabu holl arweinwyr y Blaid Lafur ym Mhrydain a bu'n gohebu a chymysgu gydag arweinwyr llywodraeth leol a swyddogion yr etholaethau a'r Aelodau Seneddol a'r ymgeiswyr Seneddol. Arhosodd yn werinwr hoffus ar hyd ei oes a braf oedd sgwrsio ag ef dros gyfnod o 30 o flynyddoedd. Er bod rhai haneswyr yn ystyried ei fod yn wrth-Gymraeg, nid oedd hynny'n wir o bell ffordd, gan iddo ef a'i briod roddi cefnogaeth i weithgarwch capel yr Annibynwyr Cymraeg a Saesneg (ac ar ôl 1972 yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) ym Mhenarth. Bu yn amddiffynnydd huawdl i Gymdeithas Dydd yr Arglwydd yng Nghymru, a cheir ysgrif ar ei safbwynt yn Etifeddiaeth, cylchgrawn y Gymdeithas, yn 1981. Chwaraeodd ran fawr yn y trafodaethau ar ddatganoli, ac er nad oedd mor iach yn y ffydd â'i olynydd Emrys Jones, bu'n barod i wario arian ar gyhoeddusrwydd i'w Blaid yn y Gymraeg a chydweithio gyda Llafurwyr cenedlaethol eu hagwedd fel David Thomas, arloeswr y mudiad llafur yng Ngwynedd.

Rhoddodd wasanaeth cydwybodol am flynyddoedd i Fwrdd Croeso Cymru, i Gydbwyllgor Addysg Cymru, i Gyngor Darlledu Cymru ac fel Cadeirydd Mainc Ynadon Penarth, lle y bu ei briod hefyd yn Ynad Heddwch. Derbyniodd yr OBE yn 1965 am ei gyfraniad i wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus. Ar ôl bywyd llawn bu farw yn ei gartref Hedd Wyn, 2 Church Avenue, Penarth ar Ddydd Mercher, 24 Hydref 1990. Cynhaliwyd yr angladd brynhawn Mawrth, 30 Hydref yng nghapel yr Annibynwyr Cymraeg Bethel, Penarth ac yna yn Amlosgfa Thornhill yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-02-18

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.