HUGHES, JOHN WILLIAMS (1888-1979), gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg

Enw: John Williams Hughes
Dyddiad geni: 1888
Dyddiad marw: 1979
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Bed.) a Phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: D. Hugh Matthews

Ganed John Williams Hughes ar 6 Ionawr 1888 ym Mrynhyfryd, Abertawe. Mab ydoedd i Jeremiah Lot Hughes, diacon, trysorydd ac ysgrifennydd gohebol Dinas Noddfa, Glandwr, eglwys y Bedyddwyr Cymraeg ar gyrion y dref. Roedd ei fam yn un o bedair merch yr enwog Barchg John Williams, gweinidog Aberduar, Llanybydder, 'Ioan ap Ioan', 1800-1871. Fe'i haddysgwyd yn ysgol gynradd Brynhyfryd cyn iddo fynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Abertawe. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr diwinyddol yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, yn 1905. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol Bangor yn y celfyddydau ac mewn diwinyddiaeth cyn symud i Rydychen yn 1911 i barhau ei addysg ddiwinyddol yng Ngholeg Mansfield a Choleg Iesu. Graddiodd yno eto ac yn 1914 ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn Dagnall Street, St Albans. Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1915, priododd â Margaret Evans, merch i'r Parchg Edward Evans, gweinidog Penuel, Bangor. Bu iddynt dri o fechgyn, Ieuan, Edward a David (sef yr actor Hugh David).

Torrodd ei iechyd yn 1918 a bu'n rhaid iddo gefnu ar St Alban's a'r weinidogaeth fugeiliol. Dychwelodd i fyw i dyddyn ger y Bermo yn Sir Feirionnydd lle bu'n cadw ieir, ond erbyn 1920 roedd ei iechyd wedi gwella digon iddo fedru dechrau pregethu eto a bwrw golwg dros eglwys fach y Bedyddwyr yn y Bermo. Derbyniodd alwad i fod yn weinidog eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Alfred Place, Aberystwyth, yn 1924 a dwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd alwad i gyd-weinidogaethu â'r hynafgwr, Parchg Charles Davies, yn y Tabernacl, Caerdydd. Yn 1936, wedi deng mlynedd yn y Tabernacl, derbyniodd alwad i fod Athro Groeg ac Astudiaethau'r Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Bangor. Cafodd ei ddyrchafu'n Brifathro Coleg y Bedyddwyr yn 1943. Nid ymddeolodd tan 1959 pryd oedd eisoes yn 71 oed, a'r adeg honno dychwelodd i fyw i Gaerdydd, gan fudo yn ddiweddarach i fyw yn Windsor gerllaw David, ei fab ieuengaf.

Fel pregethwr, yn bennaf, y cofir am John Williams Hughes, a'r arddull dawel, sgwrsiol a orfodwyd arno gan ei afiechyd. Cafodd ei wahodd i bregethu mewn amryw o gyfarfodydd pwysig megis oedfa ffarwelio â chenhadon y Bedyddwyr yn Bloomsbury yn 1938, oedfa genhadol cyrddau blynyddol Undeb Bedyddwyr Lloegr yn Westminster Chapel yn 1946, a chyfarfod y Baptist World Alliance yn yr Albert Hall yn Llundain. Yn ystod ei oes faith daeth llu o anrhydeddau eraill i'w ran. Bu'n Ddeon y Gyfadran Ddiwinyddol ym Mangor ac yn Ddeon Cyfadran Ddiwinyddol y Brifysgol, ac yn eu tro yn Llywydd Cymanfa Arfon, Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwasanaethodd ar amryw o bwyllgorau, gan gynnwys prif bwyllgor y Baptist Missionary Society a Central Religious Advisory Committee y B.B.C. yng Nghymru. Cyhoeddodd lu o ysgrifau mewn amryw o gylchgronau crefyddol a seciwlar (megis Llafar) a chyfrannodd erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd a gyhoeddwyd yn 1926 a'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953). Golygodd Cofiant Charles Davies (1933). Cafodd ieuenctid ysgolion Sul Cymru ddwy gyfrol fechan ganddo: Hanes y Proffwydi (1923) a Hanesion Llyfr yr Actau (1925). Yn 1949 paratôdd esboniad gwahanol i'r arfer i oedolion. Yn ei Rhagair i Esboniad ar yr Epistolau at yr Effesiaid a'r Philipiaid dadleua mai fel llythyrau i'w darllen a'u deall ar un eisteddiad y bwriadwyd y ddau epistol, ac nid rhywbeth i'w darllen a'u dadansoddi linell wrth linell gan graffu ar bob gair a brawddeg. Rhaid darllen y llythyr drwyddo i ganfod beth y mae Paul yn ceisio'i ddweud, meddai. Aralleiriad o'r ddau lythyr, felly, a gyhoeddwyd ganddo gan gynnwys o fewn i'r aralleiriad unrhyw eglurhad y teimla sy'n angenrheidiol. Ar ddiwedd pob aralleiriad cynhwyswyd nodiadau ar ddetholiad cymharol fach o eiriau ac ymadroddion trawiadol. Ysgrifennodd hefyd gofiant byr yn 1946 i Timothy Richard, cyfaill ysgol i'w fam, ac yn 1962 cyhoeddodd ei unig gyfrol Saesneg, sef cofiant i genhadwr arall, Christy Davies - a Brief Memoir.

Rhwng Rhagfyr 1974 a Ionawr 1977 ymddangosodd ei hunangofiant yn ysgrifau wythnosol yn Seren Cymru, ond yn 1978, ac yntau eisoes yn ddeg a phedwar ugain oed, cyhoeddodd Gwasg Gomer yr ysgrifau mewn cyfrol yn dwyn y teitl Troeon yr Yrfa.

Bu farw yn sydyn ar 2 Hydref 1979 pan oedd ar ymweliad â'i fab Edward yng Nghernyw. Bu'r arwyl yn amlosgfa Truro.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-01-29

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.