DAVIES, WILLIAM DAVID ('W.D.') (1911-2001), ysgolhaig Beiblaidd

Enw: William David Davies
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 2001
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: D. Densil Morgan

Ganwyd W. D. Davies yng Nglanaman, sir Gaerfyrddin, 9 Rhagfyr 1911, yn fab i David Davies, glöwr, a Rachel Powell, ei wraig. Wedi'i addysgu yn ysgol gynradd Glanaman ac Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg clasurol a'r ieithoedd Semitig yn Ngholeg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd, yn 1934, gan gwblhau ei BD, gyda chlod yn yr adran Testament Newydd, yn y Coleg Coffa, Aberhonddu. Ymhlith ei gyfoeswyr yng Nghaerdydd yr oedd y clasurwr J. Gwyn Griffiths a'i gyfaill Pennar Davies, ac yno, ac yn Aberhonddu, un a ddeuai hefyd yn ysgolhaig Testament Newydd o fri, sef Isaac Thomas.

A'i fryd ar fod yn weinidog gyda'r Annibynwyr, parhaodd W. D. Davies â'i hyfforddi yng Ngholeg Cheshunt, Caergrawnt, gan ennill gradd BA yn rhan ii y tripos mewn Diwinyddiaeth yn 1940 gydag MA yn 1942. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar eglwys Fowlmere, Swydd Caergrawnt, yn 1941 a pharhau yn diwtor rhan-amser yn ei goleg.

Priododd ag Eurwen Llewelyn, hithau'n ferch i löwr o Lanaman, yn 1941. Buont yng Nghaergrawnt tan 1946 pan benodwyd ef yn Athro Testament Newydd yn y Yorkshire United College, Bradford, coleg hyfforddi gweinidogion ar gyfer Annibynwyr Lloegr.

Tra oedd yn Swydd Efrog yr ymddangosodd y gyfrol a newidiodd hynt astudiaethau ar yr Apostol Paul, sef Paul and Rabbinic Judaism (1948), gwaith a enillodd iddo radd DD o Brifysgol Cymru, y tro cyntaf i'r radd honno gael ei dyfarnu ar sail arholiad. Creodd y gyfrol gonsensws newydd yn y maes Beiblaidd, sef na ellid deall ffydd yr Apostol Paul na'r Cristnogion cynnar ar wahân i'w gwreiddiau dwfn yn y grefydd Iddewig. Roedd i hyn oblygiadau mwy na rhai theoretig yn sgil traddodiad gwrth-Semtitig yr eglwys, trasiedi anaele yr holocost a sefydlu gwladwriaeth Israel ym mlwyddyn cyhoeddi'r gyfrol.

Gyda hynny daeth enw 'W. D.' yn hysbys yn rhyngwladol, ac fe'i gwahoddwyd yn 1950 i'r gadair mewn Diwinyddiaeth Feiblaidd ym Mhrifysgol Duke, Durham, Gogledd Carolina. Yn yr Unol Daleithiau y treuliodd weddill ei yrfa. Bu'n Athro Crefydd ym Mhrifysgol Princeton, New Jersey, rhwng 1955 a 1959; yn Athro Edward Robinson mewn Diwinyddiaeth Feiblaidd yn Athrofa Union, Efrog Newydd, rhwng 1959 a 1966 gan ddal cadair gysylltiol ym Mhrifysgol Columbia ar yr un pryd, cyn dychwelyd i Brifysgol Duke yn Athro Astudiaethau Uwch mewn Cristionogaeth a'i Gwreiddiau lle'r arhosodd tan 1981.

Llwyddodd toreth cyhoeddiadau Davies yn ystod y blynyddoedd hyn, a'r anrhydeddau a'u dilynodd, i sefydlu ei enw yn un o brif ysgolheigion Testament Newydd ei genhedlaeth. Erbyn hynny roedd Sgroliau'r Môr Marw a'r wybodaeth am gymuned Qumran wedi taflu goleuni newydd ar wreiddiau Semitig y Gristionogaeth gynharaf, ac roedd ei ymchwil barhaol, nid lleiaf ar Efengyl Mathew, yn olrhain mwy fyth o gysylltiadau rhwng y traddodiadau Cristionogol cynnar ac Iddewiaeth. Ymddangosodd The Setting of the Sermon on the Mount yn 1964, The Sermon on the Mount yn 1966 ynghyd â The Gospel and the Land wyth mlynedd yn ddiweddarach. Enillodd Fedal Burkitt yr Academi Brydeinig yn 1964 a'i ethol i aelodaeth o'r Academi yn 1967, a chafodd radd DD er anrhydedd gan Brifysgol St Andrews yn 1968, Berkley, California, yn 1971, a'r ThD gan Brifysgol Uppsala, Sweden, yn 1974.

Bu'n Llywydd cymdeithas ryngwladol ysgolheigion y Testament Newydd, y Studiorum Novi Testamenti Societas, yn 1976. Treuliodd gyfnodau fel darlithydd gwadd ym mhrifysgolion Erlangen, Münster, Strasbourg, Uppsala, Rhydychen, Harvard, Vanderbilt, Fordham yn Efrog Newydd, a Yale. Trwy hyn i gyd mynnodd gadw'n glós at yr hyn a oedd yn digwydd yn y capeli a'r eglwysi. Nid hwyrach y mwyaf poblogaidd o'i weithiau oedd An Invitation to the New Testament (1966), llawlyfr eglur at ddefnydd gweinidogion, athrawon ysgol Sul ac aelodau eglwysig, yn cyfryngu iddynt y ddysg Feiblaidd ddiweddaraf.

Yn 1981, pan fyddai eraill yn ystyried ymddeol, derbyniodd gadair mewn Astudiaethau Beiblaidd ym Mhrifysgol Gristionogol Texas yn Abeline. Er iddo roi'r gorau iddi yn 1985 a dychwelyd i North Carolina, arweiniodd hyn at gyfnod ffrwythlon arall yn ei yrfa ac esboniad tair cyfrol ar Efengyl Matthew, wedi'i lunio ar y cyd â'i fyfyriwr Dale C. Allison Jr., yng nghyfres yr International Critical Commentaries (1988-97). Ymddangosodd wythfed argraffiad ei gampwaith cynnar Paul and Rabbinic Judaism yn 1998, hanner canrif ar ôl cyhoeddi'r fersiwn wreiddiol, a chyhoeddwyd Festschrift iddo yn 1956 dan y teitl The background to the New Testament and its eschatology.

Cymro gwlatgar oedd W. D. Davies, a fawr brisiai'r Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac a gariodd Lanaman gydag ef i ble bynnag yr âi. Roedd ei Gymreictod yn allweddol i'w ddealltwriaeth o'r Apostol Paul a'r Testament Newydd. Mynnodd fod gwarchod cenedligrwydd dan ormes ymerodraeth estron wedi bod yn gymaint rhan o brofiad Israel y Testament Newydd dan Rufain â phrofiad Cymru yn byw yng nghysgod Lloegr. Bu'n fater gofid na chafodd alwad i fugeilio eglwys ymhlith yr Annibynwyr Cymraeg ar ddechrau ei yrfa, ac mewn coleg diwinyddol yn Lloegr, ac nid yn ei wlad ei hun, y daeth ei gyfle academaidd cyntaf. Fe'i gwahoddwyd nôl i draddodi Darlith Goffa W. M. Llewelyn yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, yn 1954, Darlith Goffa Syr D. Owen Evans yn Aberystwyth yn 1964 a Darlith Pantyfedwen yn Abertawe, 1968, a bu'n llywydd y Cymry ar Wasgar yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, sef bro ei febyd, yn 1970. Cafodd D. Litt. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1977.

Bu farw ar 12 Mehefin 2001 yn Durham, Gogledd Carolina. Er iddo fyw yn yr Unol Daleithiau am hanner canrif a mwy (gan ddod yn ddinesydd Americanaidd yn 1956), yng Nglanaman y claddwyd ei lwch ef ac eiddo Eurwen, ei wraig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2011-11-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.