THOMAS, ISAAC (1911-2004), gweinidog (Annibynwyr) ac athro coleg

Enw: Isaac Thomas
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 2004
Priod: Sybil Thomas (née Jones)
Plentyn: Mari Thomas
Rhiant: Mary Thomas
Rhiant: Ifan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (Annibynwyr) ac athro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Tudno Williams

Ganwyd 15 Chwefror 1911, yn fferm Pantyffynnon, Y Tymbl, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bum mab Ifan a Mary Thomas. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Llechyfedach, Tymbl Uchaf, ac Ysgol Ganolradd y Bechgyn, Llanelli. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1929, a graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg Clasurol yn 1933. Symudodd oddi yno i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, i ddilyn cwrs y BD ac i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Oherwydd iddo orfod treulio cyfnod o bron i flwyddyn yn Sanatoriwm Talgarth yn gwella o'r diciâu ni fedrodd gwblhau ei gwrs tan 1938. Yn y flwyddyn honno fe'i hordeiniwyd yn weinidog ym Methania, Treorci. Yn 1943 fe'i hapwyntiwyd yn ddarlithydd rhan-amser yn Hanes yr Eglwys yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, ac yn athro llawn yno ymhen dwy flynedd. Trosglwyddodd i gadair y Testament Newydd yn 1950. Ef oedd y cyntaf i gael ei benodi i Adran yr Hebraeg ac Efrydiau Beiblaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a dechreuodd ar ei swydd yn 1959. Yn y man fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd, gan ymddeol yn 1978.

Trwy gyfrwng ei ymchwil hynod o fanwl dros nifer fawr o flynyddoedd daeth yn bennaf awdurdod ar hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg. Ymddangosodd ei gyfrol Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620 yn 1976, a dyfarnwyd iddo radd DD Prifysgol Cymru amdani, ac yna cwblhaodd ei astudiaethau yn y maes erbyn blwyddyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithiad yr Esgob William Morgan yn 1988, Yr Hen Destament Cymraeg 1551-1620. Derbyniodd Wobr Goffa Vernon Hull gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ddwy waith am y campweithiau hyn. Dywedodd yr Athro J. E. Caerwyn Williams amdano: 'Gwnaeth waith yr oedd mawr angen ei wneud, ac fe'i gwnaeth yn y fath fodd fel na fydd angen ei wneud byth eto ac fel y bydd pawb a fydd yn ymddiddori yn y Gymraeg ac yn y Beibl Cymraeg yn ddyledus iddo.' Cyhoeddodd hefyd lyfrau dwyieithog sy'n cyflwyno casgliadau ei ymchwil mewn ffordd lai manwl a thechnegol: William Salesbury a'i Destament ar gyfer dathliadau pedwar canmlwyddiant y cyfieithiad llawn cyntaf o'r Testament Newydd i'r Gymraeg yn 1967, a William Morgan a'i Feibl, ar gyfer dathliadau 1988. Cyhoeddodd hefyd nifer o erthyglau mewn cyfrolau cyfansawdd ac mewn cylchgronau'n adrodd am ei gasgliadau. Cyflawnodd lawer o'r gwaith hwn tra'n dal Cymrodoriaeth Margaret Eilian Owen yn y Llyfrgell Genedlaethol o 1973 hyd 1985. Fe'i gwahoddwyd i draddodi papur yn amlinellu ei ymchwil yn y maes gerbron Cymdeithas Rhyng-genedlaethol Efrydiau'r Testament Newydd yn Durham yn 1978. Bu'n aelod o Banel Cyfieithu'r Beibl Cymraeg Newydd o'r dechrau yn 1964 hyd ei gwblhau yn 1988.

Ysgrifennodd gyfrolau eraill yn ogystal: Hanes Cristnogaeth (1949), Arweiniad Byr i'r Testament Newydd (1963), Elfennau Groeg y Testament Newydd (ar y cyd ag Owen E. Evans, 1975), a Trosom Ni: Nodiadau ar Drefn y Cadw yn yr Ysgrythurau (1991). Cyflwynwyd cyfrol deyrnged, Efrydiau Beiblaidd Bangor 3 (gol. Owen E. Evans), iddo ar ei ymddeoliad yn 1978. Y mae ei bapurau yn archifdy Prifysgol Bangor.

Priododd Sibyl Jones, Treorci, a ganwyd iddynt un ferch, Mari, a fu farw'n ddeugain oed yn 1984. Bu ei briod farw ar 1 Chwefror, 2004, a bu yntau farw ym Mangor ar 23 Mai, 2004.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-01-21

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.