JOHN, EWART STANLEY (1924-2007), diwinydd, gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr, athro a phrifathro coleg

Enw: Ewart Stanley John
Dyddiad geni: 1924
Dyddiad marw: 2007
Rhiant: Mary Ann John (née Roberts)
Rhiant: Dafydd John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd, gweinidog gydag enwad yr Annibynwyr, athro a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Desmond Davies

Ganwyd Stanley John ar gyrion pentref Wdig, Abergwaun, ym mhlwyf Llanwnda, ar 20 Mai 1924, y chweched o saith plentyn Dafydd (a oedd yn ddiacon ac yn godwr canu yn eglwys Rhosycaerau) a Mary Ann John, Bwlch y Rhos (man ei eni) ac yn ddiweddarach, Ffynnon Clun a Brynhyfryd. Fe'i haddysgwyd yn ysgol elfennol Wdig ac yn Ysgol Sir Abergwaun, lle yr enynnodd ei athro Saesneg, D. J. Williams, gariad dwfn yn ei galon at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cydnabyddai na chafodd neb fwy o ddylanwad arno yn y cyfnod ffurfiannol hwn na'i weinidog yn eglwys Ebeneser, Wdig, y Parchg. Irfon Samuel, a'i cymhellodd i ddechrau pregethu ac i ymgyflwyno i waith y weinidogaeth Gristionogol, gwaith yr hyfforddwyd ef ar ei gyfer yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin a Choleg y Brifysgol, Caerdydd.

Gweinidogaethodd mewn pedair eglwys: Sardis, Trimsaran (1950-1954) - eglwys y dychwelodd i fwrw gofal drosti yn dilyn ei ymddeoliad o'i waith coleg; Hebron, Clydach, Cwm Tawe (1954-1970); Soar, Llanbedr Pont Steffan (1970-1973); ac eglwys Harrow, Llundain (1973-1977). Yn 1977 bu trobwynt yn ei hanes gan iddo gael ei benodi y flwyddyn honno yn Athro Athrawiaeth Gristionogol yng Ngholeg Bala-Bangor, yn olynydd i un o'i gyfeillion agosaf, yr Athro J. Alwyn Charles. Ac yntau'n wr gradd yn y Celfyddydau (B.A. mewn Cymraeg ac Athroniaeth, 1947) ac mewn Diwinyddiaeth (B.D., 1950; pynciau terfynol: Athrawiaeth Gristionogol a Hanes yr Eglwys) o Brifysgol Cymru, ac yn ychwanegol at hynny wedi sicrhau, ddechrau'r 1960au, radd Meistr mewn Diwinyddiaeth (S.T.M.) o Brifysgol Iâl am draethawd ar ‘Addoli Piwritanaidd’, yr oedd ei arfau academaidd eisoes wedi eu hogi'n loyw, a thra oedd ym Mangor sicrhaodd radd Ph.D. (Cymru), 1987 am waith ymchwil ar ddau o'r arloeswyr Piwritanaidd yng Nghymru, sef Richard Blinman a Marmaduke Matthews - ‘Bywyd, gwaith a chyfnod dau Biwritan Cymreig, Maramduke Matthews and Richard Blinman’ - thesis a ddisgrifiwyd gan y Prifathro R. Tudur Jones fel “traethawd nodedig”. 'Roedd Stanley John yn ei elfen ym Mangor, yn symud i mewn ac allan ymhlith ei fyfyrwyr a'i gyd-ddarlithwyr, ac yn trin pwnc a oedd wrth fodd ei galon. Cyfrannodd yn helaeth at waith Cyfadran Ddiwinyddiaeth y Brifysgol, gan ddal swydd Deon y Gyfadran am gyfnod o dair blynedd. Yn 1988 symudwyd o Fangor i Aberystwyth, a dyrchafwyd yntau yn Brifathro cyntaf Coleg yr Annibynwyr Cymraeg, gan brofi yn y coleg ger y lli yr un hyfrydwch gyda'i waith ag a brofodd ym Mangor.

Meddai ar ddawn llenor, a chyfrannodd nifer helaeth o erthyglau (a chyfresi o erthyglau) gwerthfawr i gyfnodolion enwadol a chyd-enwadol megis Y Dysgedydd, Porfeydd, Y Tyst, Diwinyddiaeth a Cristion, yn trin a thrafod pynciau yn ymwneud ag hanfodion ffydd a chred, megis ‘Gwybod am Dduw’; ‘Gwybod am Iesu Grist’; ‘Gwybod am yr Ysbryd Glân’ ‘;Gwybod am yr Eglwys’; ‘Gwybod am Offeiriadaeth Pob Credadun’; ‘Gwybod am y Sacramentau’ (gweler rhifynau Cristion, 1987). Ef a baratôdd rifyn Ebrill-Mehefin 1973 yn y gyfres O Ddydd i Ddydd (ar rai o gymeriadau'r Hen Destament), a llyfryn 2, Beth yw Addoli?, yng nghyfres Cymru i Grist. Ef hefyd, ar y cyd gyda'r Athro Harri Williams, a luniodd yr adran yn ymdrin â chynnwys Credo Nicea-Caergystennin yn rhifyn 1981 o Gweddïo (llawlyfr defosiwn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg). Gwasanaethodd ar banel golygyddol Llyfr Gwasanaeth Undeb yr Annibynwyr Cymraeg (1962), ac ef a olygodd y Festschrift i'r Prifathro R. Tudur Jones, Y Gair a'r Genedl (1986), gan gyfrannu erthygl ei hunan ar ‘Richard Blinman (1608-1681), Piwritan Cymreig: Bedydd Babanod’.

Fel y gellid disgwyl, daeth anrhydeddau pwysig i'w ran, yn eu plith wahoddiad i draddodi anerchiad i Gynhadledd Annibynwyr y Byd yng Ngholeg Endicott, Beverly, Massachusetts (1985), ar y testun, ‘Joy in Revelation’ (fe'i cyhoeddwyd yn The Beverly Chronicle, 1985), ac yna yn 1992 fe'i dyrchafwyd yn llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, pryd y traddododd anerchiad o'r gadair ar ‘Cristionogaeth Radical’. Hwyrach nad oes yr un anerchiad o'i eiddo yn fynegiant cliriach o'i allu a'i feddwl fel diwinydd, a'r modd yr ymresymai'n gytbwys ac yn rhesymegol, na'r ddarlith a droddododd i Adran Diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yn 1989 ar ‘Athrawiaeth yr Iawn’ (gweler Diwinyddiaeth, 1990, tt. 5-23), lle mae'n ymdrin yn feirniadol â phrif ddehongliadau clasurol yr athrawiaeth hon cyn crynhoi ei safbwynt personol trwy bwysleisio y gwêl dyn, wrth godi ei olygon tua'r Groes, nid yn unig “ddyfnder ei drueni ei hun”, ond hefyd “uchder y cariad na fyn ollwng gafael ynddo”, ac sy'n ennyn edifeirwch yng nghalon pechadur. Yn 2001 bu'n annerch cynhadledd flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru ar ‘Y Traddodiad Ymneilltuol’, gan bwysleisio, mewn modd cwbl nodweddiadol o'i safbwynt, mai “trwy bregethu y bu Ymneilltuaeth fyw ac y tyfodd” ac mai “trwy bregethu y bydd hi byw ac y tyf”. Trasiedi'r dydd, yn ei dyb ef, oedd i Ymneilltuaeth ddirywio i fod yn sefydliad statig, haearnaidd yn hytrach na mudiad ag iddo dystiolaeth proffwydol, radical; tra pery'r dystiolaeth hon, a fyn aflonyddu'r byd, a'i ddiwygio, pery hefyd yr ysbryd anghydffurfiol.

Meddai ar syniad tra uchel am natur a swyddogaeth y weinidogaeth Gristionogol, a gosodai bwys mawr ar gynnal addoliad urddasol ac ystyrlawn. Câs beth ganddo oedd unrhyw arwydd o esgeulustod neu ddiofalwch, ac yr oedd cywirdeb iaith ac ymadrodd yn dra phwysig yn ei olwg. Fel yr ymroddai i baratoi'n gydwybodol ar gyfer ei gynulleidfa ar y Sul, felly hefyd y darparai'n fanwl ar gyfer ei fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth; fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i ddawn i egluro, mewn modd syml a dealladwy, ddyfnion bethau ei destun, derbyniodd, ar derfyn mwy nag un sesiwn, gymeradwyaeth ei ddisgyblion, a hwythau'n uno i guro dwylo. Eithr camgymeriad fyddai tybio, o ystyried ei ddifrifoldeb ynglyn â'i waith a'i alwedigaeth, ei fod yn amddifad o synnwyr digrifwch a hiwmor iach; i'r gwrthwyneb, yr oedd yn gwmnïwr diddan, yn storïwr difyr, yn dynnwr coes direidus, ac yn ddadleuwr peryglus. Er popeth arall a gyflawnodd, cofir amdano'n bennaf fel pregethwr caboledig, disgybledig, a theimladwy, ar adegau, gyda'r ffydd y credai mor angerddol ynddi, ac a roes oes o wasanaeth i'w chyhoeddi, ei dysgu a'i hegluro, yn aml yn ei gyffroi yn llwyr.

Treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn ôl yn ei gynefin yn Y Gilfach Glyd, Heol Emrys, Abergwaun. Bu farw yn ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar ddydd Gwener, 24 Awst 2007, a chynhaliwyd ei wasanaeth angladd yng nghapel Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ar y Gwener canlynol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-07-17

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/