WILLIAMS, WILLIAM MATTHEWS (1885-1972), cerddor

Enw: William Matthews Williams
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1972
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed 9 Rhagfyr 1885 yn Pen y Bonc, Burwen, ger Amlwch, Môn, yn fab i Richard ac Ellen Williams, Victoria House, Amlwch. Amlygodd ddawn gerddorol yn ifanc. Ar anogaeth John Matthews, prifathro'r Ysgol Fwrdd, prynodd ei rieni organ fach 'Americanaidd' iddo, ac fe'i dysgodd ei hun i'w chanu; erbyn iddo gyrraedd ei wythmlwydd yr oedd yn cyfeilio'n rheolaidd yn y Capel Mawr, Amlwch. Yn 1898 enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ganolraddol Llangefni a chael gwersi cerddoriaeth gan Miss A. L. Greaves. Yn 17 oed gadawodd yr ysgol i weithio yn siop nwyddau haearn Victoria House.

Yn 1906 fe'i penodwyd yn organydd i'r organ bib newydd yn y Capel Mawr, a dechreuodd astudio gyda Roland Rogers (1847-1927), organydd yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor. Y flwyddyn ddilynol enillodd y 'Stainer Exhibition' i'r Academi Frenhinol i astudio llais ac organ. Yn 1909 enillodd ei ddiploma ARCO gan Goleg yr Organyddion cyn dychwelyd i Amlwch. Enillodd Gymrodoriaeth yr un coleg (FRCO) yn 1911 a dychwelyd i Lundain yn athro cerdd preifat a dirprwy organydd Tabernacle Whitefield.

Yn 1912 fe'i penodwyd yn organydd capel Seion, Llanrwst, lle y cafodd gynllunio organ newydd a agorwyd yn 1913, ac o hynny allan byddai'n dilyn gyrfa fel athro cerdd, beirniad a chyfansoddwr. Yn 1920 symudodd i Gaer i fod yn organydd capel City Road, a bu'n arwain Undeb Corawl Cymry Caer o 1922 ymlaen. Rhwng 1920 a 1930 bu'n arweinydd Cymdeithas Gorawl y Rhyl, ac ef oedd corfeistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Caergybi yn 1927. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaer bu'n rhoi hyfforddiant lleisiol i'r canwr ifanc David Lloyd (1912-1969), a'i baratoi at ei glyweliad yn y Guildhall. Dychwelodd i Amlwch yn 1934, sefydlu Undeb Corawl Amlwch a gwasanaethu fel organydd Capel Mawr o 1936 ymlaen. Arweiniodd gôr o 800 ar achlysur yr ymweliad brenhinol â Chastell Caernarfon yn 1937. Rhwng 1944 a 1947 bu'n Gyfarwyddwr Gwyl Gerdd Môn, ac yn 1945 arweiniodd y canu yn angladd David Lloyd George: er cof am Lloyd George y cyfansoddodd ei emyn-dôn 'Llanystumdwy'. Yn 1946 gadawodd ei sir enedigol ac ymgartrefu ym Mae Colwyn, lle y bu eto yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl o 1959 hyd 1968.

Bu'n gefnogol iawn i'r Eisteddfod Genedlaethol ac etholwyd ef yn Gymrawd ohoni yn 1969; yr oedd hefyd yn feirniad poblogaidd ar gystadlaethau. Yn 1957 cafodd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Cyfrifid ef gyda'r gorau o blith arweinyddion cymanfaoedd canu ei gyfnod, a bu'n Gadeirydd Pwyllgor Mawl y ddau Gyfundeb Methodistaidd. Cyfansoddodd ganeuon ac emyn-donau, anthemau a rhanganau. Cyhoeddwyd casgliad o'i emyn-donau, Tannau Moliant, yn 1970. Mae ei ganeuon, 'Siôn y Glyn' a 'Llanfihangel Bachellaeth' yn enghreifftiau ardderchog o'i arddull delynegol.

Priododd Margaret Myfanwy Hughes yng nghapel St John Street, Caer, 9 Rhagfyr 1915. Wedi marw ei briod yn 1970, symudodd i Patcham ger Brighton at ei fab hynaf, a bu farw yn Ysbyty Cyffredinol Brighton, 11 Tachwedd 1972. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Hermon, Bae Colwyn, 17 Tachwedd ac amlosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Bae Colwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-06

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.