Fe wnaethoch chi chwilio am arthur
Hawliai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion Brochwel Ysgythrog. Y cyntaf o'r teulu y mae gwybodaeth bendant amdano yw IEUAN BLAENAU sydd â'i enw ' Evan Blayney o Dregynon ' ymhlith bwrdeisiaid y Trallwng yn y siartr a roddwyd i'r dref ar 7 Mehefin 1406. Sonnir am ei fab GRUFFYDD gan y bardd Lewis Glyn Cothi. Y nesaf o'r teulu oedd mab Gruffydd - sef EVAN LLOYD ap GRIFFITH, a'i fab yntau THOMAS ap EVAN LLOYD.
Bu mab Thomas ap Evan Lloyd, sef DAVID LLOYD BLAYNEY, yn siryf Sir Drefaldwyn yn 1577 ac yn 1585; ei wraig oedd Elizabeth, ferch Lewis Jones o Dref Esgob, a bu eu mab hynaf LEWIS yn ddirprwy siryf i'w dad yn 1577 ac yn 1585.
Ymbriododd Lewis Blayney â Bridget, ferch John Price o'r Drenewydd, a chofrestrwyd eu mab hwy, JOHN BLAYNEY, yn fargyfreithiwr yn yr Inner Temple yn 1609. Bu'n siryf yn 1630 a 1643, ac yn y flwyddyn 1632-1633 ef oedd prif stiward arglwyddiaethau Ceri, Cedewen, Halcetor, a Threfaldwyn. Yn 1666 ystyriwyd ef yn deilwng o'i urddo'n un o farchogion y 'Royal Oak,' urdd a fwriadwyd gan Siarl II i fod yn wobr i'w gefnogwyr. Elizabeth, merch Jenkin Lloyd o Berthlwyd ger Llanidloes, oedd ei wraig, a daeth eu merch JOYCE yn etifeddes iddynt. Priododd hi ei chyfyrder, Syr ARTHUR BLAYNEY, marchog, a berthynai i'r gangen Wyddelig o'r teulu. Ei dad ef oedd yr Arglwydd Blayney cyntaf, trydydd mab David Lloyd Blayney, siryf 1577 a 1585.
Bu EDWARD, sef yr ARGLWYDD BLAYNEY cyntaf, yn filwr o'i fachgendod, ac yn 1598 aeth i Iwerddon gyda'r iarll Essex. Gwnaeth enw iddo'i hun fel milwr ac yn 1603 fe'i urddwyd yn farchog, ac yn 1621 gwnaed ef yn Arglwydd Blayney, Barwn Monaghan yn swydd Monaghan.
Gwnaed ei ail fab ARTHUR, gwr Joyce Blayney o Gregynog, yn farchog am ei wrhydri ym mrwydr Biwmares. Yn y Rhyfel Cartrefol bu'n cynorthwyo Syr William Owen o Frogyntyn i amddiffyn castell Harlech dros y brenin, ac fe'i penodwyd yn un o'r dirprwywyr i arwyddo'r cytundeb yn rhoi'r castell i fyny ym mis Mawrth 1647. Bu farw yn 1659.
Yr oedd ei drydydd mab, HENRY, yn dad i JOHN BLAYNEY a fu'n siryf yn 1716. Ymbriododd John ag Anne, merch Arthur Weaver, Morville, Sir Amwythig. Eu mab ieuengaf a'u hetifedd oedd ARTHUR BLAYNEY. Ef oedd yr olaf o deulu Gregynog, er i'r gangen Wyddelig o'r teulu barhau am rai blynyddoedd.
Etifeddwyd ystadau'r teulu yn Sir Drefaldwyn a Sir Amwythig gan yr Anrhydeddus Henry Tracy. Yr oedd ef yn briod a Susanna Weaver, cyfyrderes Arthur Blayney a daeth yn is-iarll Tracy yn ddiweddarach - gweler y nodyn ar ddiwedd erthygl John Hanbury.
ARTHUR BLAYNEY (1716 - 1795), yr olaf o deulu Blayney, Gregynog, ger y Drenewydd. Ganwyd 11 Chwefror 1716, yr ieuengaf o wyth plentyn John Blayney ac Anne Weaver ei wraig. Bu farw'r brawd a oedd yn hyn nag ef, ac felly fe etifeddodd ystadau'r teulu. Bu'n siryf yn y flwyddyn 1764. Yr oedd yn esiampl o ysgwier. Yr oedd yn feistr-tir da a chanddo ddiddordeb yn ei denantiaid. Fe'u cynorthwyai'n aml drwy brynu eu cynnyrch. Rhoddodd lawer o dir at wneud ffordd dda ac fe gefnogai gynlluniau plannu coed. Bu farw 1 Hydref 1795 ac fe'i claddwyd yn Nhregynon ar 6 Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.