Cadwyd 13 o'i awdlau yn NLW MS 6680B: Llawysgrif Hendregadredd .
Canai yn arbennig i feibion Gruffydd ap Llywelyn ab Iorwerth ac i uchelwyr Gwynedd, ond y mae ganddo un awdl i Rys Amharedudd ap Rhys o Ddeheubarth. Canu i wyr yw'r cwbl o'i waith ac eithrio'r farwysgafn. Yr awdl gyntaf o'i waith y gellir ei dyddio yw ei farwnad i Oronwy ab Ednyfed (bu farw 1268), a'r olaf yw ei awdl i dri mab Gruffudd ap Llywelyn wedi dienyddio'r tywysog Dafydd yn 1283.
Gwr arall oedd y Bleddyn Fardd y canodd Cynddelw Brydydd ei farwnad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.