Fe wnaethoch chi chwilio am Catherine Roberts
Ganwyd yng Nghlocaenog (bedyddiwyd yno 23 Medi 1757), yn fab i Edward (amaethwr) a Margaret Charles. Ni wyddys nemor ddim o'i hanes bore, ond dywedir (Jenkins, Thomas Charles, ii, 390) iddo fod dan addysg David Ellis, curad Derwen, ac wedyn yn brentis yn Rhuthyn. Erbyn 1789, beth bynnag, yr oedd yn gweithio gyda dilledydd yn Llundain. Etholwyd ef (5 Ebrill 1790) yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion - bu'n ysgrifennydd iddi yn 1796 ac yn 'fardd' y gymdeithas ddwywaith (1800, 1810). Fel prydydd, nid yw o fawr bwys; ond bu'n copïo llawysgrifau dros ' Owain Myfyr ' (Owen Jones) yn 1803-4, a chrynhodd gasgliad o lythyrau (y rhan fwyaf ohonynt erbyn hyn yn yr Amgueddfa Brydeinig neu yn Llyfrgell Rydd Caerdydd) sy'n ffynhonnell bwysig i chwilotwyr ar hanes Cymry Llundain a'u cymdeithasau. Mwy hysbys yw ei ysgrifeniadau dadleuol. Er ei fod yn un o gyfeillion pennaf John Jones, Glan-y-gors, ni chytunai o gwbl â'i syniadau gwleidyddol, ac ymosododd (gydag eraill) ar y Seren tan Gwmmwl, yng Ngeirgrawn David Davies, Holywell, 1796. Ond casach fyth ganddo oedd y Methodistaid; yn 1793 ymosododd arnynt (heb eu henwi) yng Nghylchgrawn Morgan John Rhys; ac yn 1797 cyhoeddodd lyfryn yn eu herbyn, Epistolau Cymraeg at y Cymry. Anghymeradwyid hwn gan amryw o'i gyfeillion yn Llundain ac yng Nghymru, ac yn 1806 cyhoeddwyd Amddiffyniad i'r Methodistiaid, gan ' Arvonius,' sef Thomas Roberts, Llwyn'rhudol. Ysgrifennwr ffraeth a chwerw, mewn arddull orflodeuog, oedd Edward Charles. Efallai mai ef oedd patrwm ' Brutus ' (David Owen), ac mai ' Jack y lantern ' Siamas Wynedd a awgrymodd yr enw 'Jacks' i Frutus. Bu Edward Charles farw yn 1828, mewn tlodi dirfawr, meddir.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.