Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ail wraig Owain Gwynedd, merch Gronw (bu farw 1124) ab Owain ab Edwin, ac felly'n gyfnither i'w gwr. Ni chydnabyddid y briodas gan yr Eglwys a cheisiodd yr archesgob Becket a'r pab Alexander III ganddynt ymwahanu, beth amser cyn marw Owain. Eithr parhaodd Owain, a garai ei wraig yn fawr, yn ystyfnig; o'r herwydd bu farw o dan ysgymundod. Wedi ei mynd yn weddw rhoes Christina gynhorthwy sylweddol i'w meibion Dafydd a Rhodri yn eu hymosodiad ar eu hanner-brawd Hywel yn 1170; ceir bardd anhysbys, gan chwarae ar ei henw, yn sôn mewn modd chwerw am ei hymddygiad anghristnogol. Cristin ydyw ffurf Gymreig ei henw; ffansi ' Iolo Morganwg ' sy'n gyfrifol am y ffurf ' Crisiant ' a geir yn ' Brut Gwent ' (The Myvyrian Archaiology of Wales , ii, 572).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.