Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Yn yr 17eg ganrif bu disgynyddion Syr Richard Clough yn byw yn sir Ddinbych, gan roi siryf ar ôl siryf i'r sir a henadur ar ôl henadur i dref Dinbych. Tua chanol y 18fed ganrif cawsant fesur newydd o uchelgais a medrusrwydd mewn busnes a'u galluogodd hwynt i gael iddynt eu hunain trwy briodas neu bryniant ystadau Thelwaliaid Bathafarn, Poweliaid Glan-y-wern, a Llwydiaid Hafodunos a thrwy hynny ddarparu ar gyfer cyfresi o deuluoedd mawrion, a llawer aelod ym mhob cenhedlaeth yn mynd i'r prifysgolion ac yn eu henwogi eu hunain, mewn ystyr leol, ym myd yr Eglwys, y gyfraith, neu'r fyddin. Allan o 13 phlentyn HUGH CLOUGH (1709 - 1760) aeth tri i Rydychen, fel yr aethai yntau o'u blaen, ac aeth un, HUGH CLOUGH (1746 -?), i Gaergrawnt, gan ddyfod yn gymrawd Coleg y Brenin, yn gyfaill Cowper a Hayley, ac yn fardd, eithr bu farw'n ieuanc. Ar ôl gadael Rhydychen, priododd yr ieuengaf ohonynt, sef ROGER (BUTLER) CLOUGH (1759 - 1833), Anne Jemima Butler, Warminghurst, Sussex (chwaer a chydaeres gwraig ei frawd hŷn - y ddwy chwaer yn disgyn o deulu Dolbeniaid Segrwyd o ochr eu mam); cymerth ef gyfenw ei wraig yn ail enw iddo'i hun. Cafodd fywoliaeth yn Sussex, eithr newidiodd hi am Wyddelwern (1791), a Chorwen wedi hynny (1797), a gwerthodd ystad ei wraig yn Sussex a phrynu ystad Bathafarn yn ei sir ei hun. Fe'i gwnaethpwyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Llanelwy (1793), yn ustus heddwch (c. 1794), ac yn aelod o gyngor tref Ddinbych (1802). Yr oedd ei frawd THOMAS CLOUGH (1756 - 1814) hefyd yn ustus heddwch ac yn ganon - bu hefyd yn henadur (1794) ac yn ddiweddarach (1797) yn rheithor Dinbych - a chymerth y ddau fesurau cryfion yn erbyn terfysgwyr yn y dref a'r cylch adeg balot y milisia (1795). Ceir profion o allu Roger B. Clough ym myd busnes yn y gwelliannau amaethyddol a wnaethpwyd ar ei ystadau (o 1792 ymlaen) - rhoddwyd iddo fedal aur y Society of Arts yn 1807 - ac yn sefydlu'r banc cyntaf yn Ninbych (c. 1794) gyda David Mason, Ystrad Uchaf, y Parch. J. Lloyd Jones, Plas Madoc, a RICHARD BUTLER CLOUGH, Minydon, Colwyn, mab ei frawd hynaf; priododd yr olaf Catherine, merch ei ewythr (sef Roger Butler Clough), ac adeiladodd ac enwi, er cof amdani, eglwys S. Catherine, Colwyn (1837). Methodd y banc yn nirwasgiad y flwyddyn 1814, a bu raid gwerthu eiddo diwydiannol o fathau eraill a ddelid gan y partneriaid; golygodd talu i'r echwynwyr eu gofynion yn llawn (1822) i Clough a'i wraig golli llawer o'r arian a etifeddasant, ond yr oedd y rhan fwyaf o'u 10 plentyn un ai wedi dechrau ar waith eu bywyd neu wedi priodi. Daeth yr ail fab, JAMES BUTLER CLOUGH (1784 - 1844), yn farsiandwr cotwm yn Lerpwl ac yn dad i ARTHUR HUGH CLOUGH (1819 - 1861), y bardd, ac ANNE JEMIMA CLOUGH (1820 - 1892) arloesydd y mudiad addysg i ferched a phennaeth cyntaf Coleg Newnham, Caergrawnt; deuai'r brawd a'r chwaer ar dro weithiau i Minydon (tŷ nad yw'n bod weithian) hyd farw eu hewythr yn 1844.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.