CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog

Enw: Cynan Ap Hywel
Dyddiad marw: 1242?
Rhiant: Hywel ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

a sefydlwyd gan ei dad Hywel Sais (bu farw 1204) yn S. Clears ac a gydunai fel rheol â Maelgwn ap Rhys yn y cwerylon teuluol. Ceir sôn amdano gyntaf yng ngosgorddlu Maelgwn pan gymerwyd ef yn garcharor yn 1210 gan ei gefndyr Rhys ac Owain yr amser yr ymosodwyd ganddynt ar wersyll eu hewythr yn Cilcennin. Daw i'r golwg yn nesaf yn 1223, pryd y'i ceir yn erbyn Llywelyn, tywysog y Gogledd, ac yn ymuno â William Marshall pan oedd yr iarll yn goresgyn y De; bu'n anrheithio Is-Aeron a roddwyd wedi hynny yn ei feddiant, a chafodd Emlyn ac Ystlwyf (rhwng Cynin a Chywyn) yn dâl am ei gymorth. Ar 18 Tachwedd hysbysodd y brenin ddarfod i Gynan dalu gwrogaeth am ei dreftadaeth briod ac nad oedd neb i amharu arno. Yr oedd yn dal tiroedd yn Ne Cymru ym Mehefin 1225, pryd y rhoddwyd comisiwn i Lywelyn a'r iarll Marshall i wneud rhaniad a fyddai'n deg rhwng Maelgwn, Owain, a Cynan, a thrachefn ym Mawrth 1238 pan enwyd ef ymhlith gwŷr gwrogaeth rhai o'r mawrion Seisnig y gwaherddid iddynt dalu gwrogaeth i David fel aer Llywelyn. Yn ôl incwestau ymchwil yn 1288 a 1299 darganfu Walter Marshall fod Cynan, pan fu Llywelyn farw yn 1240, yn elyniaethus i Goron Lloegr ac o'r herwydd cymerth Emlyn ac Ystlwyf oddi arno. Ni wyddys ddim o'i hanes wedi hynny; y mae'n weddol glir oddi wrth farwnad Dafydd Benfras i Lywelyn ei fod wedi marw yn 1244. Y mae gan y Prydydd Bychan farwnad iddo wedi ei hysgrifennu yn y dull traddodiadol — yr oedd yn elyn i Loegr, gwnaethai i'r wlad honno ildio, ac ymosododd ar Ros am gan noson.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/