'Dafydd Gorlech Caermden' yn ôl Peniarth MS 49 (167b). Y mae 25 o gywyddau wrth ei enw yn y llawysgrifau, ond priodolir 11 ohonynt i feirdd eraill hefyd. Ymhlith y lleill y mae cywydd sy'n dechrau 'Am eryr braich mor a bryn' yn cynnwys cyfeiriadau at Syr Rosier Fychan. Daliwyd y gŵr hwnnw gan Siaspar Tudur yn 1471 a'i ddienyddio yng Nghasgwent (gweler G.G.G., 342). Y mae'r bardd yn hen ac yn gofyn am nodded. Awgryma'r cwpledi o'r cywydd sy'n dechrau 'Y brud hen wyd yn bratau' i Ddafydd Gorlech oroesi Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffydd (fl. 1447-86 yn ôl Llenyddiaeth Cymru, W.J.G., 37). Y mae cyfeiriadau yn ei gywyddau at ddaroganau a briodolir i Fyrddin, Taliesin, a'r Bardd Glas.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.