DAFYDD LLWYD MATHAU, MATHE, neu MATHEW (fl. 1601-29), prydydd a chlerwr

Enw: Dafydd Llwyd Mathau, Mathe, Neu Mathew
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd a chlerwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio; Barddoniaeth
Awdur: Geraint Bowen

Hanoedd, yn ôl y Prifathro J. H. Davies, o Gilpyll, Llangeitho. Priodolir iddo gerddi sydd yn moli teuluoedd Morfa Mawr, sir Fôn (1601), Llewenni, sir Ddinbych (1602), Mawnseliaid Margam, Poweliaid Llan Dw, Phylipiaid Gelli'r-fid, Llandyfodwg, ym Morgannwg; ac, ym Mhenfro, Henllys (1603, 1606, 1611), Tre Wern, Pont Gynon (1615), Pen-y-benglog (1629), a Thomas ap Risiart o Farlas. Lluniodd gywyddau serch ac yn 1611 ' Awdl or pedwar messur ar higain a rhagor o fessurau o ddyfaliaeth ir Awdwr.' Mae un cywydd yn ei law ei hun yn Llanstephan MS 38 .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.