DAVIES (neu DAVID), THOMAS ESSILE ('Dewi Wyn o Essyllt '; 1820 - 1891)

Enw: Thomas Essile Davies
Ffugenw: Dewi Wyn O Essyllt
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1891
Priod: Jane Davies (née Matthews)
Plentyn: Catherine David
Plentyn: John Davies
Plentyn: Edward Davies
Rhiant: Elizabeth David
Rhiant: William David
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas John Morgan

Ganwyd 20 Mehefin 1820 yn Ninas Powys, Sir Forgannwg, yn fab i William (ac nid ' Edward,' yr enw a roir yn nodiad coffaol 'Watcyn Wyn' yn rhifyn Gŵyl Dewi Y Geninen 1891) ac Elizabeth David. Melinydd oedd William David ac yn 'Y Felin' yr oedd yn byw; 'miller and farmer' meddai'r newyddiaduron adeg marw'r mab enwog; ond gelwir ef yn 'labourer' yng nghofnod bedyddio ei blentyn yng nghofrestr plwyf Sant Andras. Ni nodir dydd y geni yng nghofnod y bedyddio ar 9 Gorffennaf 1820, ond fe'i ceir ar garreg ei fedd; yr un dyddiad a roir yn y newyddiaduron pan roir hanes ei yrfa adeg ei farwolaeth, er bod rhai ohonynt yn rhoi'r 15 o Fehefin (e.e. Western Mail, 2 Chwefror 1891; News of the Week, 7 Chwefror 1891).

' David' yw'r cyfenw a ddefnyddir yn gyson yn y cofnodion swyddogol, a 'Thomas' yw'r unig enw bedydd. 'Thomas David' yw'r enw yn nhystysgrif ei briodas, a hynny hefyd sydd yn y pedwar cofnod am fedyddio ei blant. Er iddo arfer y ffurf ' Davies' yn gyhoeddus (e.e. 'Davies' sydd yn Ceinion Essyllt), 'Thomas Essile David' sydd ar garreg ei fedd. Y mae'n ddigon tebyg iddo ychwanegu'r enw canol 'Essile' (i gyfateb i'r 'Essyllt' yn ei enw barddol) er mwyn gweddnewid cyffredinedd ei enw naturiol, etc. Dewiswyd 'Essyllt,' y mae'n amlwg, o gredu'r gam-dyb fod 'Esyllwg' yn hen enw ar Forgannwg (gweler Lloyd, A History of Wales , 282).

Dywed 'Watcyn Wyn' (op. cit.) iddo briodi pan oedd tuag 21 oed; a rhoir y flwyddyn 1841 yn y newyddiaduron, e.e., News of the Week, 7 Chwefror 1891. Ond dyddiad cywir y briodas yw 22 Hydref 1842. Nid annheg yw casglu fod dyddiad y briodas wedi ei wthio'n ôl dipyn am fod y plentyn hynaf wedi ei eni ymhen llai o amser nag y disgwylid ar ôl y briodas; cofnodir bedyddio'r mab hynaf 27 Ebrill 1843. Yn eglwys Sant Andras y bu'r briodas, ac enw'r wraig oedd Jane, merch Edward a Catherine Mathews o Ddinas Powys; dywedir ei bod yn gyfnither i 'Mathews Ewenni.' Yn nhystysgrif y briodas, nodir mai melinydd oedd Thomas David (a 'William' yw enw ei dad yma eto). Yng nghofnod bedyddio'r mab Edward, 'Three Horse Shoes' yw enw cartref y rhieni. Yn ôl adroddiadau coffaol yr oedd y tad yn felinydd ac yn ffarmwr ac yn siopwr.

Symudodd y teulu i Bontypridd yn 1874 - enghraifft dda o'r ymfudo o Fro Morgannwg i ganol prysurdeb enillfawr y cymoedd diwydiannol. Methodistiaid oeddynt, a dewiswyd y bardd yn flaenor yng nghapel y Graig, Pontypridd, a dywedir ei fod yn mynychu Penuel tua diwedd ei oes er nad oedd yn aelod yno; ond er hynny, yr oedd ei fab John yn offeiriad - yr oedd yn rheithor Llangofan, sir Fynwy, pan fu farw yn Ionawr 1888. Bu farw Jane David ar 28 Rhagfyr 1885. Bu farw'r bardd ar 30 Ionawr 1891. Mewn llety yr oedd yn byw yn niwedd ei oes, yn Heol yr Undeb (Union Street), ac wrth alw yn nhafarn yr Hewitt Arms, Pencoedcae, syrthiodd yn farw yn hollol ddirybudd. Fe'i claddwyd ym mynwent Sant Andras. Codwyd cofadail ar y bedd 'gan gyfeillion y bardd ym Mhontypridd a'r Cyffiniau,' a cheir arni hir-a-thoddaid o waith ' Brynfab.'

Yr oedd ei gynnyrch eisteddfodol yn doreithiog iawn, yn awdlau a phryddestau ac englynion, etc. Enillodd ar yr awdl yn eisteddfod Dowlais yn 1851; a gellir dilyn ei hynt gystadleuol ar ôl hynny wrth fynd drwy'r gyfrol Ceinion Essyllt (Caerdydd, 1874) a sylwi ar y darnau buddugol, a chofio'r un pryd mai cyfansoddiadau anfuddugol yw amryw o'r pethau heb nodiad wrthynt. Daliodd i gystadlu ymhell ar ôl chyhoeddi'r Ceinion; ceir rhestr hir o'i gyfansoddiadau eisteddfodol yn nodiad coffaol ' Watcyn Wyn,' a gwelir iddo lunio tair awdl eisteddfodol yn yr un flwyddyn, sef yn 1881. Ystyrid ei fod yn gystadleuydd llwyddiannus iawn, ond bernid hyd yn oed yn y cyfnod eisteddfodol hwnnw iddo gystadlu gormod. Nid barddoniaeth yw'r Ceinion i gyd, gan fod yn y gyfrol rai erthyglau; ond y mae'n agos i 600 o dudalennau; ac i fesur maint ei gynnyrch, dylid ychwanegu'r cyfanswm mawr o gyfansoddiadau eisteddfodol ac o erthyglau a luniwyd ar ôl 1874.

Bu'n golygu Y Gwladgarwr (ac yn y cylchgrawn hwn cyhoeddodd lythyrau beirniadol go bigog o dan y ffugenw ' Crito'); Y Fellten; Cydymaith y Plentyn; a bu am flynyddoedd yn gofalu am golofn farddoniaeth y Weekly Mail. Yr oedd yn ffigur nodedig iawn yn ei ddydd, ac nid bychan ei gyfraniad at fywyd a gweithgarwch llenyddol dwyrain Morgannwg yn nyddiau bri ' Clic y Bont '; ond ar ôl darllen ei weithiau'n ddiragfarn, rhaid cyfaddef mai ychydig iawn, iawn ohono sydd o deilyngdod ac o werth arhosol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.