a breswyliai yn y Cilast yn ymyl Maenor Deifi; ffermwr cefnog. Ymddengys mai tua 1736 y dechreuodd bregethu. Yn 1745, dilynodd Lewis Thomas o Fwlch-y-sais fel gweinidog Rhydyceisiaid yn Sir Gaerfyrddin a Glandŵr yn Sir Benfro. Pregethai'n deithiol ar draws lled mawr o wlad, yn ymestyn mor bell â Llandudoch; cynorthwyid ef yn 1747-8 gan Evan Williams o Gwmllynfell. Efo, yn bur sicr, oedd y John David a ymunodd â Henry Palmer a Rees Davies (gweler dan Davies, Benjamin, 1739? - 1817) mewn llythyr (Trevecka Letter 231) at Howel Harris, 22 Mawrth 1740). Bu farw 22 Gorffennaf 1756, a chladdwyd ym Maenor Deifi. Y mae marwnad iddo (argraffwyd hi yn y gwaith a enwir isod) gan Morris Griffith - efallai Morris Griffith o Hwlffordd; noder bod cofnod yn y gronfa Forafaidd yn Hwlffordd yn canmol John David yn fawr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.