Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ni wyddys ond ychydig iawn amdano. Yn ôl Walter J. Evans (NLW MSS 10327B ), yr oedd yn academi Caerfyrddin dan Perrott; ond yr unig enw tebyg yn rhestr Wilson (llyfrgell y Dr. Williams - copi yn NLW MS 373C ) o fyfyrwyr Perrott yw 'Rees Davies,' ac uniaethir hwnnw yno a Rees Davies o'r Canerw; nid yw'r naill ddywediad na'r llall yn gwbl argyhoeddiadol. Sut bynnag, nid gweinidog oedd Rees David, ond ysgolfeistr. Yn 1720 neu 1721 cyhoeddodd gyfieithiad o Gyffes Ffydd Cymanfa'r Bedyddwyr - cambriodolir hwn i Jenkin Jones o Lwynrhydowen, eithr nid yn unig byddai hynny'n annhebyg sut bynnag, ond arwyddir y cyfieithiad (a'r rhagair) â'r llythrennau 'R.D.' Ar y llaw arall, yn od ddigon, y mae Joshua Thomas yn rhoi'r clod i Rees David am Llun Agrippa 1723, cyfieithiad o lyfr Matthew Mead; y mae enw Jenkin Jones ar ei wyneb-ddalen ac ar ddiwedd ei ragair. Gellid meddwl mai tua Chastellnewydd Emlyn yr oedd Rees David yn cadw ysgol ar y dechrau; yr oedd yn un o'r gwŷr a arwyddodd lythyr o Landysul at eglwys Rhydwilym yn 1725. Ond yn 1729 troes yn Armin, a symudodd i gadw ysgol yn Hengoed, lle'r oedd Charles Winter yn byw. Pan aeth hi'n helynt yn Hengoed (1730), gwrthododd Rees David gymrodeddu; ymadawodd â Hengoed ac ag enwad y Bedyddwyr, ac aeth i gadw tafarn yn sir Frycheiniog; yn Aberhonddu y bu farw, 'amryw flynyddau ar ôl 1746,' meddai Joshua Thomas, a'i hadwaenai ac a'i hystyriai'n 'ddyn moesol, tawel a didramgwydd' (Hanes y Bedyddwyr, 378-9).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.