Ganwyd Mawrth 1822 yn y Tŷ Mawr, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn, aelwyd enwog yn hanes Annibyniaeth y fro. Yr oedd ei dad yn ddiacon yn yr 'Hen Gapel' a bu 'Ap Vychan' yn 'hogyn cadw' gydag ef am saith mlynedd, a chydnabu i ddylanwad yr aelwyd hon ei ddilyn ar hyd ei oes. Dechreuodd E. T. Davies bregethu tua 1842, yr un pryd â Michael D. Jones, mab gweinidog yr ' Hen Gapel,' Michael Jones, ac ef a hyfforddodd y ddau yn ei ysgol yn y Weirglodd Wen. I Goleg Aberhonddu yr aeth E. T. Davies. Yn 1847 cafodd alwad i eglwysi Llansantsior a Moelfro, ac urddwyd ef y flwyddyn ddilynol. Cyn hir cymerodd ofal eglwys Abergele ac yma y bu nes ymneilltuo yn 1887. Am flynyddoedd cadwai ysgol yn ei dŷ ar gyfer ymgeiswyr am y weinidogaeth. Cyhoeddodd lyfr o'i ganiadau a chyfieithodd lyfr G. B. Johnson, Ein Hegwyddorion. Bu'n ysgrifennydd cyfundeb Dinbych a Fflint. Yr oedd 'Scorpion,' a oedd yn gyd-fyfyriwr ag ef, ac yntau yn gyfeillion mawr. Bu farw 2 Ebrill 1895.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.