EDWARDS, RICHARD OWEN (1808 -?), cerddor

Enw: Richard Owen Edwards
Dyddiad geni: 1808
Rhiant: John Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 31 Gorffennaf 1808 yn Penderlwyngoch, Gwnnws, Sir Aberteifi, mab i John Edwards a brawd i J. D. Edwards. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan Dafydd Siencyn Morgan. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig. Bu am flynyddoedd yn arwain côr Ystrad Meurig, ac âi o gwmpas yr ardaloedd cylchynnol i gynnal ysgolion canu. Gallai ganu'r clarinet, a sefydlodd seindorf yn ei ardal. Cyfansoddodd lawer o donau, a cheir hwy yn Y Ceinion (' Hafrenydd '), Caniadau Seion, a'r Attodiad (Richard Mills), a Haleliwia Drachefn (Griffith Harries). Nid oes sicrwydd pryd y bu farw, ond yr oedd yn fyw yn Ebrill 1887.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.