Ganwyd 8 Medi 1840 yn nhref Aberteifi, mab Thomas Evans, saer llongau o'r dref honno. Pan oedd yn 11 oed aeth i weithio ar long a hwyliai rhwng porthladdoedd Cymru. Ond nid oedd y bywyd hwn wrth ei fodd; dihangodd i Aberdâr a gweithiodd fel glowr yng Nghwmbach. Dechreuodd farddoni pan oedd yn ieuanc iawn a chafodd ei wobr gyntaf am bryddest ar 'Gostyngeiddrwydd' mewn eisteddfod a gynhaliwyd dan nawdd capel y Bedyddwyr yng Nghwmbach, lle yr oedd yn aelod. Cyfansoddai yn rhwydd yn y mesurau rhyddion a chaethion, a bu'n fuddugol mewn eisteddfodau lleol o dan feirniadaeth beirdd o fri fel 'Islwyn' a 'Cynddelw.' Pan fu farw o'r darfodedigaeth, ac yntau ond 25 oed, cyfrifid ef yn un o feirdd mwyaf addawol Cymru. Ei weithiau enwocaf yw'r telynegion 'Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd' ac 'Yr Haf'; y mae'r ddiwethaf wedi ei chynnwys gan W. J. Gruffydd yn ei Flodeugerdd. Bu farw 29 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberdâr. Cyhoeddwyd yn 1866 gyfrol o'i weithiau wedi eu dethol gan ei gyfaill 'Dafydd Morganwg' gyda chofiant gan Howel Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.