Ganwyd y ddau yn y Gronant, Sir y Fflint, Robert yn 1791 a Lewis ar 20 Chwefror 1799. Ysgotyn oedd eu taid, a'u nain yn Saesnes; goruchwyliwr gwaith plwm oedd eu tad, ac aelod o eglwys Trelawnyd a phregethwr cynorthwyol.
Dechreuodd Robert Everett bregethu yn 1809; aeth i ysgol ramadeg Dinbych ac yn 1811 i athrofa Wrecsam a oedd y rhan fwyaf o'r amser y bu yno o dan ofal y Dr. George Lewis, a chafodd gynnig bod yn gyd-athro iddo. Urddwyd ef yn weinidog Lôn Swan, Dinbych, yn 1815. Yn 1823 ymfudodd i America i ofalu am eglwys Gymraeg Utica. Enillasai iddo'i hun safle anrhydeddus ymhlith gweinidogion pennaf Cymru; cyfrifai Robert Thomas ('Ap Vychan') ef mor afaelgar pregethwr â Williams o'r Wern; cymerth ran amlwg yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, ac ysgrifennodd draethawd ar 'Prynedigaeth' i lyfryn John Roberts, Llanbrynmair, Galwad Ddifrifol (gweler Cofiant John Jones, Talysarn, 447). Cyhoeddodd hefyd gynllun o law-fer Gymraeg a'r Catecism Cyntaf neu'r Addysgydd. Symudodd o Utica i Winfield yn 1833, ac yn 1838 i ofalu am eglwysi Steuben a Phenmynydd; bu farw yno 25 Chwefror 1875. Yn 1840 cychwynnodd Y Cenhadwr Americanaidd; cyhoeddodd a golygodd ef ei hun tra y bu byw a chanddo ei argraffwasg ei hun. Daeth yn gylchgrawn (misol) poblogaidd a chyfoethog iawn. Cychwynnodd gyhoeddiadau misol eraill fel Y Dyngarwr a'r Detholydd, ond byrhoedlog fuont.
Ef a dderbyniodd ei frawd LEWIS EVERETT yn aelod yn Ninbych. Wedi ysbaid fel masnachwr aeth yntau i'r weinidogaeth; urddwyd ef yn Llangwyfan yn 1831, a bu yno hyd 1835 pryd y symudodd i ofalu am eglwysi Llanrwst, Trefriw, a Nantyrhiw; arhosodd yno wyth mlynedd, gan ymddeol oherwydd afiechyd a myned i Rhyl i fyw. Cyn hir cymerth ofal eglwys Ochr y Foel, Dyserth, a bu'n cadw ysgol ddyddiol. Bu farw 1 Ebrill 1863, a chladdwyd ef ym mynwent blwyfol Trelawnyd.
Yn Hydref 2022 cafodd Robert Everett ei gynnwys yn yr American National Abolition Hall of Fame am ei waith yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.