Câr a chyfaill William I. Efe oedd y cyntaf i gymell William i geisio goresgyn Lloegr a daeth yn bennaf gŵr yn y gwaith hwnnw; efe a fu'n gyfrifol, yn bennaf, am sefydlu teyrnasiad y Normaniaid ar arfordir Cymru ac am oresgyn Gwent. Daeth yn iarll Henffordd yn gynnar yn 1067, a bu i'w ymosodiadau trwm ar dir y goror beri i Bleddyn a Rhiwallon ap Cynfyn o Bowys ymuno fel cynghreiriaid â Saeson Mercia yn 1067 a pharhau yn y cyswllt hwnnw nes i wŷr Mercia ymostwng yn derfynol yn 1070. Gorchfygodd Fitzosbern Faredudd a Rhys ab Owain, Deheubarth, a Chadwgan ap Meurig, Morgannwg (c. 1070), adeiladodd gestyll yn Wigmore, Clifford, Ewias Harold, Trefynwy, a Chepstow, a gorchfygodd Gwent. Ystyrid yn Lloegr ei fod yn ŵr gerwin, eithr yr oedd yn gymodlawn yn ei ymwneud â Chymry Gwent, gan adael i amryw ohonynt gadw eu tiroedd ar y telerau ffafriol a gawsent gan Gruffydd ap Llywelyn; ni chollodd mo'r meiri Cymreig eu lle ychwaith. Cyn ymadael â'r wlad am y tro diwethaf daeth i delerau â Maredudd ab Owain a chaniatáu iddo drefedigaeth ('vill') Ley. Er mwyn cryfhau y gyfres o gestyll amddiffynnol ar y goror cysylltodd â hwynt fwrdeisdrefi y rhoddwyd siarteri iddynt, gan ddenu pobl i ymsefydlu ynddynt trwy roddi iddynt amodau byw ffafriol; e.e. rhoes i'w denantiaid Ffrengig yn Henffordd y breiniau rhyddfrydig a roesai i'w bobl yn Breteuil. Daeth y breiniau hyn yn batrwm i'r siarteri a roddwyd gan amryw o'r arglwyddi Normanaidd i'w bwrdeisdrefi hwythau, a bu ganddynt ddylanwad mawr yng Nghymru gan fod Henffordd yn cael edrych arni yn gyffredinol fel patrwm o fwrdeisdref. Lladdwyd Fitzosbern mewn brwydr yn Cassel, 20 Chwefror 1071, a chladdwyd ef yn Cormeilles yn Normandi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.