Mab William Grey, Llangyfelach; bedyddiwyd yn eglwys y plwyf hwnnw 26 Rhagfyr 1733. Dechreuodd weithio fel glowr. Cafodd dröedigaeth sydyn, meddir, pan laddwyd nifer o'i gydweithwyr y buasai ef yn eu plith oni bai ei ddanfon ar neges i Gastell Nedd y diwrnod hwnnw. Tebyg mai yn 1754 y bu hyn, oherwydd claddwyd pump o ddynion yn Llangyfelach ar 11 Hydref y flwyddyn honno, ac un John Grey yn eu plith. Ymaelododd yn eglwys Annibynnol Tir Doncyn, neu'r Mynydd Bach, Llangyfelach. Anogwyd ef i bregethu, ac aeth dan addysg David Jardine yn athrofa'r Fenni, 3 Hydref 1757. Cofnodir grantiau iddo o'r Gronfa Gynulleidfaol yn Ionawr 1758 a 1759. Cafodd drwydded pregethwr anghydffurfiol yn llys sesiwn chwarterol Ceredigion, 30 Gorffennaf 1762. Ar farw Philip Pugh, yn 1762, cafodd alwad i fugeilio'r eglwysi Annibynnol yn Llwynpiod ac Abermeurig, Sir Aberteifi. Priododd Letitia (gynt Jenkins), gweddw Theophilus Jones, Blaenplwyf, Llanfihangel Ystrad, gwr y canodd Williams Pantycelyn farwnad iddo yn 1758, ac aethant i fyw yn y Sychbant, Nantcwnlle, un o ffermydd stad Blaenplwyf. Ganwyd iddynt un ferch, Letitia, tua 1767. Priododd hithau y Parch. John Hughes (1760 - 1813), ficer Nantcwnlle a Llanddeiniol, a mab iddynt ydoedd William Gray Hughes, ficer Mathri, clerigwr o ddoniau addawol a fu farw yn 32 oed yn 1824. Bu Thomas Grey 'n cydweithio â Daniel Rowland, a phregethai'n gyson yn Llangeitho ac yng nghapeli eraill a chymanfaoedd y Methodistiaid. Cofir am ei bregeth yng nghymdeithasfa Aberteifi, 1796, ar Secharïa xiii, 1. Sefydlodd achosion yn y Ceinewydd, Llanarth, Ffosyffin, a Llanddewi Aberarth. Ar ei farwolaeth, 2 Mehefin 1810, aeth ei eglwysi drosodd at y Methodistiaid Calfinaidd, a chollwyd cnewyllyn yr hen Ymneilltuaeth ym mlaenau dyffryn Aeron. Dywedir ei fod yn nodedig am ei gallineb ac iddo fod yn gymorth mawr i'r Methodistiaid yn eu symudiadau. Disgrifir ef fel gwr mawr, corffol, garw ei wedd, a golwg fawreddog arno mewn wig fawr yn null y Piwritaniaid. Er mai Gray a welir amlaf fel ffurf ei enw, Grey a ddefnyddiai ef ei hun. Cyhoeddwyd marwnadau iddo gan H. Harries a Joseph Richard, yn Aberystwyth, 1810.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.