Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

GRUFFYDD ap RHYS (bu farw 1201), tywysog Deheubarth

Enw: Gruffydd ap Rhys
Dyddiad marw: 1201
Priod: Matilda Braose
Plentyn: Owain ap Gruffydd
Plentyn: Rhys Ieuanc
Rhiant: Gwenllian ferch Madog ap Maredudd
Rhiant: Rhys ap Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Deheubarth
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab hynaf Rhys ap Gruffydd a Gwenllian, merch Madog ap Maredudd. Fel sylfaenydd llinach hynaf disgynyddion yr Arglwydd Rhys efe a nodid yn etifedd tiroedd pennaf ei dad yn Ystrad Tywi a chydnabyddid ef fel hynny gan yr awdurdodau Seisnig. Ar y cyfan rhoddwyd cyfeiriad i brif ddigwyddiadau ei yrfa fer gan uchelgeisiau ei wrthwynebwyr - ei frawd Maelgwn a Gwenwynwyn o Bowys; o'r herwydd, ansicr hyd y diwedd oedd ei afael ar ei etifeddiaeth. Mewn un ystyr gellir edrych ar ei yrfa fel math o ragarweiniad i'r cwerylon teuluol dinistriol hynny a arweiniodd i gwymp terfynol teulu Dinefwr. Yn 1189 priododd Matilda, merch William de Breos, a'i goroesodd, gyda dau fab ieuanc, Rhys Ieuanc ac Owain, pan fu farw ar 25 Gorffennaf 1201. Claddwyd ef a Matilda yn Ystrad Fflur.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.