HOWEL, HARRI (fl. 1637-71), bardd

Enw: Harri Howel
Rhiant: Howel ap Sion Ieuan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

mab Howel ap Sion Ieuan o blwyf Dolgellau, a oedd yntau yn fardd. Yr oedd yn cydoesi â Gruffydd Phylip (gweler Phylipiaid Ardudwy) ac yn canu i'r un teuluoedd ag ef o'r bron. A barnu oddi wrth y deunaw neu fwy o gywyddau a adawodd ar ei ôl bu Harri Howel yn canu i wŷr tiriog yn byw mewn cylch sy'n ymestyn o Fodwrdda yn Llŷn i Gwaenynog a Llwyn Ynn yn nyffryn Clwyd, Nannau a Hafod Dywyll, gerllaw Dolgellau, a Dolaugwyn gerllaw Tywyn, Meirionnydd. Y mae'n debyg ei fod, fel Siôn Phylip (gweler Phylipiaid Ardudwy), yn amaethu ei dir ei hun - y mae hyd heddiw le o'r enw ' Ffridd Harri Howel ' ar derfynau plwyfi Dolgellau a Llanfachreth. Canodd farwnad Sion Miltwn, Gwaenynog, yn 1637, a chywydd priodas Robert Owen, person Llangelynnin, Sir Feirionnydd, yn 1671.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.