HUGHES, WILLIAM (1838 - 1921), argraffydd a chyhoeddwr, Dolgellau;

Enw: William Hughes
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1921
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Alfred Ernest Hughes

Ganwyd 27 Ionawr 1838 yn yr Wyddgrug. Wedi bod yn egwyddorwas yn swyddfa Thomas Gee, Dinbych, symudodd yn 1864 i Dolgellau i gymryd gofal swyddfa Y Dysgedydd, a ddelid ar y pryd gan yr hon a ddaeth yn briod iddo. Daeth ei swyddfa argraffu yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yng Nghymru, fel y gwelir oddi wrth y rhestr o'r llyfrau gwerthfawr a drowyd allan ynddi. Y mae cerddoriaeth Cymru, yn enwedig cerddoriaeth gynulleidfaol, yn ddyledus iddo. Efe a anturiodd gyhoeddi gwaith John Ambrose Lloyd pan wrthodwyd ef gan gyhoeddwyr eraill, sef Aberth Moliant,, Gweddi Habacuc, a bron bob un o'i anthemau. Cyhoeddodd hefyd oratorio ' Ystorm Tiberias ' Edward Stephen ('Tanymarian'), a llu o'i anthemau yntau.

Cychwynnodd newyddiadur wythnosol, Y Dydd, yn 1868, gyda Samuel Roberts ('S.R.') yn olygydd a Richard Davies ('Mynyddog') yn ei gynorthwyo. Bu yn dwyn allan Y Dysgedydd am 56 mlynedd, a hefyd Dysgedydd y Plant a Cronicl Bach J.R. am gyfnod. Cymerai ddiddordeb mewn materion cyhoeddus a chrefyddol; yr oedd yn Rhyddfrydwr pybyr, yn henadur o gyngor sir Meirion, yn ustus heddwch, ac yn ddiacon am 55 mlynedd. Bu farw 23 Chwefror 1921 yn 83 oed, a chladdwyd ef yn y Brithdir, ger Dolgellau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.