a chyfaill ‘Twm o'r Nant.’ Dywed ‘Harri Myllin’ yn Cymru (O.M.E.), 1893, mai yn Llanrhaeadr Mochnant y ganed ef ac y treuliodd ei oes. Methwyd â darganfod cofnod ei fedyddio yno, ond yno y claddwyd ef, 10 Mehefin 1813, yn 66 oed. Yr oedd gan ‘Cynddelw’ feddwl mawr ohono fel bardd, a dywed mai efe a James Jones oedd y beirdd gorau yn Llanrhaeadr. Yn llawysgrif ei fab George Humphreys (N.L.W. 6729) ceir copïau o'i waith yn englynion, carolau plygain, Pasg, a Sulgwyn, cerddi duwiol, a phenillion gofyn ewyllys da John Jones o'r Frongoch i'r cryddion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/