HYWEL GETHIN (' Hywel Gethin of Celynnog,' yn ôl y llawysgrifau) (fl. c. 1485), bardd

Enw: Hywel Gethin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

y dywedir ei fod yn ŵr o Glynnog Fawr yn Sir Gaernarfon. Nid erys unrhyw fanylion amdano, ond y mae'n amlwg bod y dyddiadau a roir iddo gan Owen Jones, 'Gweirydd ap Rhys,' 'Myrddin Fardd,' a Wiliam Owen (sef 1570-1600), yn rhy ddiweddar, oherwydd ceir mewn llawysgrifau gywydd moliant a gyfansoddodd i bedwar mab Rhys ap Hywel ap Madog o Lanystumdwy, ac yr oedd y rheini'n byw yn niwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 16eg (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 129, 170). Dywedir ei fod yn achydd, ond ni chafwyd unrhyw enghraifft o'i waith achyddol hyd yn hyn, nac ychwaith ddim rhagor o'i farddoniaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.