IEUAN ap GRUFFUDD LEIAF (fl. ail hanner y 15fed ganrif), bardd
Enw: Ieuan Ap Gruffudd Leiaf
Plentyn: Sion Leiaf
Rhiant: Gruffudd Leiaf
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker
aelod o un o deuluoedd sir Ddinbych, mab Gruffudd Leiaf ap Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Dafydd Goch, o linach Owain Gwynedd (Peniarth MS. 127 (19)). Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau ac awdlau i aelodau teulu'r Penrhyn a Nanconwy, cywyddau brud a chrefyddol, cywydd i Aberconwy, cywydd dychan i afon Llugwy am rwystro'r bardd ar ei ffordd i'r Penrhyn, ac ymryson rhyngddo a Guto'r Glyn (Gwaith Guto'r Glyn, 17, a Peniarth MS. 99 (624)). Ceir ychydig o farddoniaeth ei dad, Gruffydd Leiaf, ac hefyd Syr Sion Leiaf (ei fab) a Rhobert Leiaf (ei ewythr neu ei fab) yn y llawysgrifau.
Awdur
Ffynonellau
- Jones a Lewis, Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (1928);
- Ifor Williams a J. Llywelyn Williams, Gwaith Guto'r Glyn (1939), 1939;
-
'Dictionary of Welsh Biography';
-
Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol (1875);
-
Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908);
- ‘Gweirydd ap Rhys,' Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300–1650 (1885);
- William Owen Pughe, The Cambrian Biography (1803).
- (Rhoir dyddiadau ychydig rhy ddiweddar gan y pum olaf hyn.)
- Edward Davies, Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion, hen a diweddar, yn gelfyddydwyr, beirdd, gwyddonwyr, pregethwyr, 1870.
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Ieuan ap Gruffudd Leiaf
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733261
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/