Ganwyd yn ardal Pontarddulais, ac addysgwyd (meddir) yn yr ysgol a gedwid gan Robert Morgan (1621 - 1711). Digiodd ei rieni wrtho am ei Ymneilltuaeth, a thua 1685 aeth i Lerpwl, i wasnaethu meddyg o Fedyddiwr o'r enw Ebenezer Fabius (a fu farw 1691); aeth yn feddyg ei hunan, a phregethai, yn agos i Lichfield. Yn ôl David Jones (Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, 524), bu am dymor yn un o weinidogion ei fam eglwys yn Abertawe; ond nid yw Joshua Thomas (A History of the Baptist Association in Wales, 29-30) yn rhoi unrhyw le inni i gasglu hynny. O 1704 hyd 1718 bu'n weinidog yn Warwick, ac o hynny ymlaen yn Hemel Hempstead, lle y bu farw yn 1748, yn 84 oed. Priodolir iddo'r radd o M.D., ond ni ddywed Joshua Thomas (A History of the Baptist Association in Wales, 30) fwy na ' bod ganddo gymaint o wybodaeth a medr fel meddyg fel y gelwid ef yn gyffredin yn Dr. James. ' Traddododd bregeth y gymanfa yn Llanwenarth yn 1705. Ym mhapurau Rhual yn Ll.G.C. y mae llythyr ganddo (rhif 108) at Thomas Edwards, a sgrifennwyd 5 Tachwedd 1698 o ' Beguily ' (Bugeildy ? Begelly ?).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.