JAMES, THOMAS (bu farw 1751), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Thomas James
Dyddiad marw: 1751
Priod: Sarah James (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

gelwir ef weithiau'n 'Thomas James, Llanfair-ym-Muellt,' ond gan amlaf yn 'Thomas James, Cerrig-cadarn,' ac yn sicr dyna oedd ei gartref yn 1744, pan gyfeiria Richard Tibbott at 'dŷ Thomas James yn Errwd.' Dechreuodd gynghori yn 1741 - hyd yn hynny, ni wyddys ddim amdano. Yn sasiwn Watford, Ionawr 1743, penodwyd ef yn gynghorwr teithiol, ac yn sasiwn Ebrill yno, rhoddwyd iddo arolygiaeth seiadau ar lannau Gwy; gwelir rhai o'i adroddiadau arnynt yn Meth. Cymru, i, 165; iii, 315, 331. Cyfeiria Howel Harris ato'n fynych yn ei ddyddlyfrau, ac y mae yng nghasgliad Trefeca (Ll.G.C.) 10 o lythyrau oddi wrth Thomas James at Harris, heblaw un at Ann Williams (Harris) ac un at George Whitefield, a 17 o lythyrau gan Harris at Thomas James, heblaw un gan Ann Williams ato; ymestyn yr ohebiaeth o fis Medi 1741 hyd ddiwedd Ebrill 1749. Yn yr ymraniad (1750) ochrodd Thomas James â Rowland (Bennett, Meth. Trefaldwyn Uchaf, 182), ond ychydig wedyn cawn ef yn perthyn i'r blaid fechan a elwid yn ' bobl Buallt,' y gellid meddwl fod y brodyr Relly hefyd ynddi (Bennett, op. cit., 187). Ddechrau Gorffennaf 1751 clywodd Harris am farwolaeth Thomas James (Bennett, op. cit., 196).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.