LEWIS, JAMES (1674 - 1747), gweinidog Annibynnol

Enw: James Lewis
Dyddiad geni: 1674
Dyddiad marw: 1747
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Eirug Davies

Ganwyd yn Ninas Cerdin, plwyf Llandysul, Sir Aberteifi, o hen deulu'r Lewisiaid o'r lle hwnnw. Dywed ei faen coffa ym mynwent eglwys Llanllawddog ei fod 'o rieni duwiol ac elusengar.' Urddwyd yn weinidog yn 1706 ar eglwys Pencadair, lle, mae'n debyg, yr oedd yn aelod, ac yr oedd eglwys Pantycreuddyn (Horeb wedyn) hefyd o dan ei ofal. Ef oedd olynydd y Parch. William Evans, a daeth yn arweinydd amlwg i Ymneilltuwyr y cylch. Yr oedd yn dra Chalfinaidd ei olygiadau, a gwrthwynebai Arminiaeth yn egniol. Ef ynghyd â'r Parch. Christmas Samuel a ysgrifennodd Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol, 1730, yn ateb i lyfryn, Y Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol, 1729, a briodolir i Jenkin Jones, Llwynrhydowen, gŵr a godwyd i bregethu ganddo ym Mhantycreuddyn, ond a ymadawodd a chodi ei gapel ei hun gan nad addefid ei ddaliadau gan ei hen eglwys a'i gweinidog. Gwahoddodd James Lewis y diwygiwr Howel Harris i efengylu yn ei ardal yn 1740. Bu farw 31 Mai 1747, yn 73 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.