LLOYD (TEULU), Maesyfelin, Sir Aberteifi

Syr MARMADUKE LLOYD (1585 - 1651?)

Y cyntaf o'r llinach i ymsefydlu yn Maesyfelin (neu Millfield), gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan, Sir Aberteifi; ganwyd 1585, mab ac aer Thomas Lloyd, cantor a thrysorydd eglwys gadeiriol Tyddewi, a nai Marmaduke Middleton, esgob Tyddewi. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychen, 1599, a graddio'n B.A., 1603. Ar 26 Mawrth 1604 aeth i'r Middle Temple, a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ar 3 Tachwedd 1608. Priododd Mary, ferch John Gwyn Stedman, Strata Florida, a bu iddynt dri mab a chwe merch. Yr oedd yn atwrnai'r brenin yng Nghymru a'r goror, 1614-1622, dewiswyd ef yn aelod o gyngor y goror ar 3 Rhagfyr 1614, a gwnaethpwyd ef yn farchog ar 7 Ebrill 1622. Bu'n gofiadur Aberhonddu, 1617-1636, is-farnwr cylchdaith Caer, 1622-1636, a phrif farnwr cylchdaith Brycheiniog, 1636-1645.

Yr oedd Syr Marmaduke yn Frenhinwr ffyddlon, a phan gymerwyd Henffordd gan fyddin y Senedd, 18 Rhagfyr 1645, cymerwyd yntau'n garcharor a'i gadw felly am dymor nes iddo, yn 1647, dalu swm o arian am ei stad. Ceir ei enw hefyd yn rhestr carcharorion a gymerwyd gan y cyrnol Horton pan orchfygwyd un o luoedd y brenin yn Sain Ffagan, Sir Forgannwg, 8 Mai 1648. Yr oedd yn gyfeillgar â Rhys Prichard, ficer Llanymddyfri. Yr oedd yn fyw ym mis Mawrth 1650, eithr profwyd ei ewyllys ar 8 Tachwedd 1651.

Dilynwyd Syr Marmaduke gan ei fab hynaf

FRANCIS LLOYD (bu farw 1669)

Ni wyddys ym mha flwyddyn y ganwyd ef. Priododd Mary, merch John Vaughan, iarll Carberry. Goroeswyd ef gan ei wraig. Bu hi farw yn St Martin-in-the-Fields; profwyd ei hewyllys yn Llundain 31 Rhagfyr 1677. Yr oedd Bridget, merch Richard Leigh, a fu'n faer Caerfyrddin yn 1666, yn fam i dri phlentyn Francis Lloyd (dau fab, Lucius a Charles, a merch, Frances). Priododd Bridget wedi i Francis farw (a chyn 1676) ag un John Farrington.

Bu Francis Lloyd yn aelod seneddol dros Gaerfyrddin o 9 Mawrth 1640 hyd y 'rhwystrwyd' ef i eistedd, sef ar 5 Chwefror 1644. Yr oedd yntau, fel ei dad, yn Frenhinwr. Bu'n 'Comptroller of the Household' i Siarl I, a gwnaethpwyd ef yn farchog, 24 Mawrth 1643, yn Rhydychen Yr oedd yn bennaeth y marchoglu dros y brenin yn Sir Benfro ac yn un o benaethiaid byddin y brenin a ffodd ar ffrwst mawr o Hwlffordd cyn i'r dref honno gael ei chymryd gan y cyrnol Laugharne yn 1644. Cymerwyd ef a'i dad yn garcharorion yn Henffordd ym mis Rhagfyr 1645. Cytunodd, 24 Ionawr 1646, i dalu iawn, eithr ymddengys iddo ymuno â byddin y brenin eilwaith a chymerwyd yntau, fel ei dad, yn garcharor ym mrwydr Sain Ffagan. Wedi'r Adferiad fe'i dewiswyd yn 'Gentleman of the Privy Chamber' i Siarl II. Bu farw yn 1669, a chladdwyd ef yn Llanbedr-Pont-Steffan.

Yr oedd gan Syr Marmaduke Lloyd ail fab, sef MARMADUKE LLOYD. Efe oedd tad

FRANCIS LLOYD (1655 - 1704), aelod seneddol

o Llwydlo a Cherrig-cadarn, sir Frycheiniog. Bu'n aelod seneddol dros Lwydlo, 1691-1695, yn atwrnai cyffredinol cylchdaith Morgannwg, Brycheiniog, a Maesyfed, 1689-1695, yn is-farnwr cylchdaith Môn, Caernarfon a Meirionnydd, 1695-1701, a chylchdaith Caerfyrddin, 1701-1702. O 1692 hyd ei farw yn 1704 efe oedd cofiadur Llwydlo.

Bu farw Lucius ei fab gordderch hynaf, yn ystod oes ei dad. Dilynwyd Syr Francis Lloyd yn ei stadau gan ei ail fab gordderch

CHARLES LLOYD (1662 - 1723), aelod seneddol

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Priododd (1), Jane, merch Morgan Lloyd, Greengrove, a bu iddo ddwy ferch o'r briodas hon; a (2), Frances, merch Syr Francis Cornwallis, Abermarlais, Sir Gaerfyrddin. Cafwyd dau fab a phedair merch o'r ail briodas. Bu Charles Lloyd yn siryf Sir Aberteifi, 1690, a Sir Gaerfyrddin, 1716; gwnaethpwyd ef yn farchog, 1693, ac yn farwnig yn 1708. Bu'n cynrychioli bwrdeisdrefi Aberteifi yn y Senedd, 1698-1701. Bu farw 28 Rhagfyr 1723 a chladdwyd ef yn Llanbedr-Pont-Steffan.

Dilynwyd ef gan ei fab hynaf

Syr CHARLES CORNWALLIS LLOYD (c.1704 - 1729)

Yr ail farwnig. Priododd ef Miss Jennings, Anderton, swydd Somerset. Bu farw 25 Chwefror 1729 yn 24 oed. Dilynwyd yntau gan ei frawd iau

Sir LUCIUS CHRISTIANUS LLOYD (bu farw 1750)

Priododd Anne, merch Walter Lloyd, Peterwell, gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan. Bu'n siryf Sir Aberteifi yn 1746. Gan iddo farw'n ddi-blant, 18 Ionawr 1750, daeth llinach wrywol y teulu i'w therfyn ac aeth y stadau i feddiant teulu Lloyd, Peterwell.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.