LLOYD (TEULU), Peterwell, Sir Aberteifi

WALTER LLOYD (bu farw 1747) bargyfreithiwr

Mab Walter Lloyd, Foelallt, Sir Aberteifi. Priododd (yn 1713 y mae'n debyg), Elisabeth, merch ac aeres Daniel Evans, Peterwell, gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan (siryf Sir Aberteifi yn 1692). Bu'n faer Aberteifi 1710, 1711, 1714, 1718, a 1721, yn atwrnai-cyffredinol De Cymru (sef dros siroedd Ceredigion, Caerfyrddin, a Phenfro), ac yn farnwr y llysoedd 'Equity' yng Ngogledd a De Cymru. Yr oedd yn aelod seneddol dros sir Aberteifi, 1734-42, pleidleisiodd dros y confensiwn yn 1739, eithr collodd ei sedd yn herwydd petisiwn, yn Chwefror 1742. Bu farw yn 1747.

Dilynwyd Walter Lloyd yn ei stadau ac yn swydd atwrnai-cyffredinol y tair sir gan ei fab hynaf (sef y mab hynaf a fu byw)

JOHN LLOYD (bu farw 1755), aelod Seneddol

Bu'n aelod seneddol sir Aberteifi o 1747 hyd ei farwolaeth yn 1755. Priododd ef (1), Elizabeth, merch a chydaeres Syr Isaac le Hemp (neu Le Hoop), gŵr a enwir gan Paul Whitehead yn ei The State Dunces; a (2) - Savage. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i amryw o wŷr amlwg ei ddydd - Henry Fox (Lord Holland wedi hynny), Syr Charles Hanbury Williams, a Richard Rigby, y Postfeistr Cyffredinol. Yn 1750 daeth i feddu stad Maes-y-felin ar farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith, Syr Lucius Christianus Lloyd, y 3ydd barwnig (a'r diwethaf). Bu farw yn ddiblant yn 1755 a'i gladdu yn Llanbedr-Pont-Steffan.

Dilynwyd John Lloyd gan ei frawd iau

HERBERT LLOYD (1719 - 1769), aelod Seneddol

Roedd yn byw yn Foelallt, plwyf Llanddewibrefi. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1738, a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr (Inner Temple) yn 1742. Yn y flwyddyn honno priododd ei wraig gyntaf, - Bragg, swydd Essex; bu hi farw yn 1743. Ei ail wraig oedd Anne, merch William Powell, Nanteos, a gweddw Richard Stedman, Strata Florida. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Aberteifi o 1761 hyd 1768, eithr bu'n aflwyddiannus fel ymgeisydd ac fel petisiynydd yn 1769. Ar 2 Tachwedd 1761 cyflwynodd i'r brenin Siôr III anerchiad oddi wrth ei etholwyr yn llongyfarch y brenin ar ei esgyniad i'r orsedd. Fe'i gwnaethpwyd yn farwnig ar 26 Ionawr 1763. Yr oedd yn ddyn golygus ac o gymeriad cadarn, eithr yn tueddu i fod yn awdurdodol ac yn unbenaethol; os ydyw y traddodiad yn Sir Aberteifi i'w gredu bu Syr Herbert yn gyfrifol am amryw weithredoedd cas a chreulon (y mae cyfeiriad at un weithred mewn drama Gymraeg). Pan oedd yn ŵr ieuanc bu'n arweinydd amryw gynulliadau terfysglyd, e.e. yr ymosodiad ar Lewis Morris yn 1753 pan oedd hwnnw'n gofalu am weithydd mwyn y brenin yn Esgairmwyn. Rhoes derfyn ar ei fywyd yn Llundain ar 19 Awst 1769, a'i stadau'n ddwfn mewn dyled. Gyda'i farw ef daeth un o deuluoedd Sir Aberteifi, a oedd yn argoeli bod yn un o'r rhai mwyaf ei ddylanwad yn Ne Cymru, i'w derfyn ar yr ochr wrywol.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.