LLWYD, HUW (‘Huw Llwyd o Gynfal’; 1568? - 1630?), milwr a bardd

Enw: Huw Llwyd
Ffugenw: Huw Llwyd o Gynfal
Dyddiad geni: 1568?
Dyddiad marw: 1630?
Rhiant: Dafydd Llwyd ap Howel ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr a bardd
Maes gweithgaredd: Milwrol; Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

yn byw yn Cynfal Fawr, plwyf Maentwrog, sir Feirionnydd. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd ap Howel ap Rhys ac yr oedd iddo frawd Owen; gwyddys i Huw ac Owen brynu llawer o dir yn yr ardal. Bu'n brwydro yn Ffrainc a Holand mewn catrawd Gymreig a ymladdai yn erbyn lluoedd Sbaen. Tybir mai ef a adeiladodd y Cynfal presennol; disgrifir y tŷ yn fanwl o ran ei du mewn a'i du allan gan y bardd Huw Machno c. 1630. Merch Hendre Mur (neu Mur Castell), tua dwy filltir o Gynfal, oedd ei wraig.

Canai Huw Llwyd yn y mesurau caeth a rhydd. Gwnaeth ddau gywydd i'r llwynog (eithr priodolir y rhain, weithiau, i Edmwnd Prys). Ei waith gorau, o bosibl, ydyw cywydd i ofyn cwpl o fytheiaid i Thomas Prys, Plas Iolyn; canodd hefyd gywydd i ateb englynion i ofyn dau o fytheiaid o waith Morus Berwyn dros Owen Ellis, Ystumllyn. Dywedir ei fod yn enwog trwy Ogledd Cymru fel heliwr (gweler hefyd gywydd, gan Hugh Salesbury, yn ymbil am genau milgi i Edward Llwyd o Lanelwy dros Hugh Lloyd, sef Huw Llwyd, 6 Hydref 1606). Y mae adran yn Pen. MS. 123, wedi ei theitlo ‘O Hen Physigwriaeth’ (ac yn llaw Ellis Wynne, Lasynys), wedi ei thynnu allan o lawysgrif gan Huw Llwyd. Yr oedd iddo beth enwogrwydd fel meddyg, a dywedai traddodiad gwlad ei fod yn ‘ddyn hysbys.’ Nid oes sicrwydd pa bryd y bu farw, eithr gwyddys ei fod yn byw yng Nghynfal yn 1629 ac iddo oroesi Edmwnd Prys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/