Brodor, y mae'n debyg, o ardal mynyddoedd Berwyn. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Cywyddau i wahanol foneddigion Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf o'i gerddi; yn eu plith ceir rhai i Sion Salbri o Lywenni a'i wraig Catrin o'r Berain, Syr Wiliam Morus o'r Clenennau, Rhobert Wyn o'r Foelas, Tomas Fychan o'r Hafod, capten Wiliam Tomas. Ceir hefyd gywydd ganddo i'r esgob Wiliam Morgan, a nifer o englynion ar amrywiol destunau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.