Fe wnaethoch chi chwilio am david lloyd george
Yn byw yn Cynfal Fawr, plwyf Maentwrog, Sir Feirionnydd. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd ap Howel ap Rhys ac yr oedd iddo frawd Owen; gwyddys i Huw ac Owen brynu llawer o dir yn yr ardal. Bu'n brwydro yn Ffrainc a Holand mewn catrawd Gymreig a ymladdai yn erbyn lluoedd Sbaen. Tybir mai ef a adeiladodd y Cynfal presennol; disgrifir y tŷ yn fanwl o ran ei du mewn a'i du allan gan y bardd Huw Machno c. 1630. Merch Hendre Mur (neu Mur Castell), tua dwy filltir o Gynfal, oedd ei wraig.
Canai Huw Llwyd yn y mesurau caeth a rhydd. Gwnaeth ddau gywydd i'r llwynog (eithr priodolir y rhain, weithiau, i Edmwnd Prys). Ei waith gorau, o bosibl, ydyw cywydd i ofyn cwpl o fytheiaid i Thomas Prys, Plas Iolyn; canodd hefyd gywydd i ateb englynion i ofyn dau o fytheiaid o waith Morus Berwyn dros Owen Ellis, Ystumllyn. Dywedir ei fod yn enwog trwy Ogledd Cymru fel heliwr (gweler hefyd gywydd, gan Hugh Salesbury, yn ymbil am genau milgi i Edward Llwyd o Lanelwy dros Hugh Lloyd, sef Huw Llwyd, 6 Hydref 1606). Y mae adran yn Peniarth MS 123 , wedi ei theitlo 'O Hen Physigwriaeth' (ac yn llaw Ellis Wynne, Lasynys), wedi ei thynnu allan o lawysgrif gan Huw Llwyd. Yr oedd iddo beth enwogrwydd fel meddyg, a dywedai traddodiad gwlad ei fod yn 'ddyn hysbys.' Nid oes sicrwydd pa bryd y bu farw, eithr gwyddys ei fod yn byw yng Nghynfal yn 1629 ac iddo oroesi Edmwnd Prys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.