Clywir gyntaf amdani yn nyffryn Nantlle (W. R. Ambrose, Hynafiaethau Nant Nantlle, 59), yn cadw tafarn y Telyrniau gerllaw'r Gelli, ym mlodau gwaith copr Drws-y-coed, tua chanol y 18fed ganrif. Gallai, meddid, wneud telyn a ffidil, a chanu'r naill a'r llall i'w chwsmeriaid a ddawnsiai o'i chwmpas. Wedyn, symudodd i Benllyn ar gwr isaf Llyn Padarn; ei phrif waith yno oedd cludo'r mwyn copr o droed yr Wyddfa mewn cwch i ben isa'r llyn. Ymwelodd Thomas Pennant â'i thŷ yn 1786, ond yr oedd hi oddi cartref ar y pryd. Edrydd Pennant (Tours in Wales (arg. 1883), ii 320-1) bethau rhyfeddol amdani; cadwai ddwsin neu ragor o gŵn, a daliai fwy o lwynogod mewn blwyddyn nag a ddaliai'r helwriaethau mewn deg; medrai'r hen alawon a chanai hwy ar y ffidil; yr oedd yn saer coed da, a gwnâi ei chychod ei hunan; yn of, ac yn pedoli ei cheffylau; ac yn grydd. Pan oedd yn 70, gallai eto ymaflyd codwm ag undyn. Terfyna Pennant: 'Yn y diwedd rhoes ei llaw i'r mwyaf merchetaidd o'i hedmygwyr' - chwanega'r Athro W. J. Gruffydd (Hen Atgofion, 88), ar sail traddodiad a glywyd gan ei nain, mai Rhisiart Morys oedd ei enw, a bod Marged wedi rhoi dwy gurfa ofnadwy iddo; ar ôl y gyntaf, fe ddaeth yn ŵr iddi, ar ôl yr ail fe ddaeth yn Fethodist, yn wir 'yn un o arweinwyr pennaf Methodistiaeth y plwyf'; eithr yn ôl W. R. Ambrose (loc. cit.), William ap Rhisiart oedd enw'r gwron hwn. Dywed Ambrose hefyd iddi farw yn 1788, yn 92 oed. Ond yn ôl y Cambrian Travellers Guide (a ddyfynnir gan W. Hobley, Hanes Meth. Arfon, iv, 22), bu farw yn 1801, yn 105 oed - sylwer fod y ddwy stori'n cytuno (ac yn cytuno â Pennant) ynghylch y flwyddyn y ganed hi. Cyfansoddodd rhyw brydydd o Sais linellau i'w dodi ar garreg ei bedd - gweler hwy yn llyfr Ambrose.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.