Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

MILLS, RICHARD (‘Rhydderch Hael’; 1809-1844), cerddor

Enw: Richard Mills
Ffugenw: Rhydderch Hael
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1844
Plentyn: Richard Mills
Rhiant: Jane Mills
Rhiant: Henry Mills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Gwilym Prichard Ambrose

Ganwyd Mawrth 1809 yn Tynewydd, gerllaw Llanidloes, mab Henry a Jane Mills (ail wraig Henry Mills). Wedi gadael yr ysgol yn 11 oed dechreuodd ddysgu crefft gwehydd. Daeth yn hysbys fel cyfansoddwr emyn-donau pan nad oedd ond 15 oed, gan i‘w dôn, ‘Maes-y-llan,’ gael ei chyhoeddi yn Seren Gomer. Yr oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Gerddorol Bethel, Llanidloes. Yn 1835 cyhoeddodd Y Gwladgarwr ddarlith ganddo ar y testun, ‘Y gelfyddyd o gerddoriaeth.’ Cafodd y wobr am emyn-dôn yn eisteddfod 1838 Cymreigyddion y Fenni, ac yn 1840 wobr gyffelyb mewn eisteddfod yn Lerpwl. Yn 1840 ymddangosodd ei Caniadau Seion, a chafwyd Atodiad yn 1842. Cafodd y ddau waith hyn ddylanwad mawr ar ganu cynulleidfaol yng Nghymru, a gellir eu cyfrif yn garreg-filltir ar ffordd gwella‘r canu hwnnw. Dyma‘r casgliad gorau hyd yn hynny; yr oedd yn cynnwys tonau gan J. Ambrose Lloyd, Rosser Beynon, a Richard Mills ei hunan, ynghyd ag anthemau gan Handel a Haydn. Cafwyd ychwaneg o emyn-donau ac anthemau yn Yr Arweinydd Cerddorol, a gyhoeddwyd mewn tair rhan gan Mills, 1842-5, y drydedd ran wedi ei farw ef; yn y gwaith hwn y cafwyd am y tro cyntaf emyn-dôn Almaenaidd (‘Mannheim,’ J. S. Bach) mewn casgliad wedi ei gyhoeddi yng Nghymru; ceid yn y gwaith hefyd gyfarwyddiadau mewn canu a cherddoriaeth. Bu gwerthu mawr ar y casgliadau hyn, a bu i ansawdd emyn-donau Mills a gwaith rhai eraill a gyhoeddodd ddylanwad er daioni ar safon canu cynulleidfaol; bu yntau hefyd yn darlithio llawer mewn rhai siroedd yng Nghymru ar y pwnc hwn. Bu farw 24 Rhagfyr 1844. Priododd ei weddw â John Pryse.

Mab iddo oedd RICHARD MILLS (1840 - 1903), a aeth â thraddodiad cerddorol y Millsiaid i ardal Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych; ganwyd 1 Hydref 1840. Wedi i‘w dad farw yn 1844 anfonwyd y bachgen ieuanc i‘r Drenewydd, Sir Drefaldwyn, at dad ei fam. Daeth yn ôl maes o law i Lanidloes i fod yn gysodydd cerddoriaeth hen nodiant yn swyddfa ei lysdad John Pryse. Astudiodd gerddoriaeth yn ddyfal, enillodd wobr mewn eisteddfod yn Llanidloes am gyfansoddi tôn, ‘Pendref,’ ac mewn eisteddfod ddiweddarach (Llanidloes, 1864) cafodd y wobr am gyfansoddi ‘canon’ i dri llais. O Lanidloes aeth i Wrecsam i wasnaethu Hughes a‘i Fab, a bu‘n gyfarwyddwr cerddorol i‘r ffyrm honno hyd 1877. Pan oedd yn Wrecsam bu‘n arweinydd corau yn y dref honno ac yn Broughton a Bangor-is-coed; ef oedd arweinydd côr eisteddfod Wrecsam, 1876. Wedi iddo briodi Sarah Owen, Aberderfyn, Rhosllanerchrugog, yn 1876 sefydlodd (yn 1878) argraffdy yn y lle hwnnw, ac yn 1894 dechreuodd gyhoeddi y Rhos Herald, a pharhau i olygu‘r newyddiadur hwnnw tra bu byw. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth — anthemau megis ‘Duw sydd noddfa,’ ‘Ai gwir yw,’ ‘Yr Arglwydd yw fy Mugail,’ a ‘Cân Moses a Chân yr Oen’; canigau megis ‘Y Wybren Dlos,’ ‘Y Dderwen Lydan,’ etc.; gweler hefyd Ceinion y Gân. Canwyd llawer ar ei driawd, ‘Nid i mi,’ a‘r ddeuawd, ‘Beti Wyn.’ Cyfansoddodd a threfnodd lawer o donau — gweler esiamplau yn Rhaglen Cymanfa Ganu Goffa Richard Mills, 1946. Efe a gyfansoddodd y dôn ‘Arweiniad.’ Bu ‘Côr y Rhos’ yn llwyddiannus iawn o dan ei arweiniad ef. Bu farw 18 Mai 1903 a chladdwyd ym mynwent y Rhos.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau