Ganwyd 1 Mai 1822 yng Nghwmpib, Cribyn Clotas, Llanbedr-Pont-Steffan. Yr oedd o'r un teulu â David Davis, Castell Hywel. Pan yn 12 oed, symudodd i Flaenbidernyn ger Pencarreg. Pum mlynedd ar ôl hynny agorodd ysgol ddyddiol ym Mhencarreg. O Bencarreg aeth i gadw ysgol yn Rhydcymerau, ac oddi yno i Frynaman a Chwmtwrch. Dychwelodd o'r diwedd i Frynaman, lle y bu yn gweithio fel clerc i gwmni gwaith haearn lleol am 40 mlynedd. Yn yr 1840au sgrifennodd nifer o erthyglau ar gymeriadau i'r Haul, ac yn yr 1850au ymddangosodd llawer erthygl o'i eiddo ar lysieuaeth yn Yr Ymofynydd, ynghyd â chyfieithiadau o'r Sasesneg yn Gymraeg, e.e. The Vicar of Wakefield (Goldsmith), a ' We are Seven ' (Wordsworth). Yn eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan, 1859, daeth yn ail i John Morris Jones ('Ioan Cunllo') am awdl goffa i Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion') a chafodd ganmoliaeth uchel gan ' Eben Fardd.'
Adnabyddid ef ar lafar ym Mrynaman fel Dafydd Moses, ond tuag 1860, wedi ymchwil i hanes ei deulu ychwanegodd y cyfenw Evans, a'r cyfenw hwnnw a ddefnyddiai'r pump neu'r chwech ieuengaf o'i naw plentyn a gyrhaeddodd oedran teg, 4 mab a 5 merch. Bu farw 1 Medi 1893.
Mary, ei ferch, oedd llysfam J. Lloyd Thomas, a fu'n brifathro ysgol ramadeg Llanfyllin, a mam Dafydd Arafnah Thomas, gweinidog. Gweler erthygl T. J. Morgan ar Feirdd Eisteddfodol Cwmaman a Chwmtawe yn Journal of the Welsh Bibliographical Society , 9, tt. 162-85, am ei gyfraniad fel hyfforddwr beirdd y gymdogaeth, a thystiolaethau Watcyn Wyn a Gwydderig yn yr un erthygl. Gweler hefyd Huw Walters, Canu'r Pwll a'r Pulpud, tt. 94-103 yn arbennig.
I T. Moy Evans, un o'i feibion a fu'n brifathro Ysgol Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan cyn mynd yn gyfreithiwr yn Rhydaman, yr ewyllysiodd Gwydderig (Richard Williams, 1842 - 1917) ei lawysgrifau.
Bu mab arall John M(oy) Evans yn gyfreithiwr amlwg yn Abertawe, yn aelod o gyngor y dref ac yn gadeirydd Pwyllgor y llyfrgell a'r Royal Institution yno. Bu ef yn llywydd Cymanfa Undodaidd Deheudir Cymru. Golygodd gyfrol o storïau Hirnos Gaeaf a chyfresi yn y Cambrian Daily Leader. Mab arall oedd D. L. Moses-Evans, cyfreithiwr yn Ystalyfera ac E. Tudor Moses-Evans, ficer Monkton, Penfro, a chanon Tyddewi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.