OWEN, MATTHEW (1631-1679), bardd

Enw: Matthew Owen
Dyddiad geni: 1631
Dyddiad marw: 1679
Priod: Elizabeth Owen
Plentyn: Lowri Owen
Rhiant: John Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Bardd o Langar yn Edeirnion. Bedyddiwyd Matthew Owen ar 10 Ebrill 1631; yn fab i wraig gyntaf John Owen ac yn wyr i ryw John Owen - hwnnw, yn ôl traddodiad, yn fab i John Owen, rheithor Llangar o 1586 hyd ei farwolaeth yn 1592.Cyfansoddodd amryw o gerddi yn null Huw Morys - englynion, cywyddau, ac un awdl farwnad o leiaf. Dengys amryw o'i gerddi iddo dreulio peth amser yn Rhydychen, er nad ymddengys ei enw yn rhestrau Foster na Wood. Yn 1658 cyhoeddwyd yno gerdd o'i waith, sef Carol o Gyngor . Adargraffwyd 15 copi ffacsimile ohoni yn 1897 dan olygyddiaeth Richard Ellis. Gwelir dyrïau o waith Owen yn Carolau a dyriau duwiol (arg. 1729, 114), a thair cerdd yn Blodeu-Gerdd Cymry, 150, 288, 382. Dyddir yr olaf o'r rhain yn 1656 fel y dengys tystiolaeth fewnol. Ceir amryw eraill o gerddi, crefyddol a gwlatgar gan amlaf, mewn llawysgrifau yn Ll.G.C., gan gynnwys 'Ymddiddan â'r llwynog yn Rhydychen,' a cherdd dlos o 'Ymddiddan â'r lleuad yn Rhydychen'; anfonir y lleuad i annerch Meirionnydd, ac i wrthddweud yno'r chwedl anghywir am farw'r bardd. Cyfansoddodd awdl farwnad i Syr John Owen, Clenennau (bu farw 1666), a chanodd gerdd i Richard Hughes, person Gwytherin (sef rhwng 1660 a 1674). Mewn llawysgrif ddiweddar o'r gerdd olaf hon (NLW MS 668C ), gelwir y bardd yn 'Mathew Goch, alias Owen.' Eglwyswr selog oedd Matthew Owen, a throai yn yr un cylch â Huw Morys ac Edward Morris. Yr oedd yn englynwr da, a cheir un englyn o'i waith, sef 'Aneddfawr santaidd noddfa …' uwch porth eglwys Talyllyn, ac ar eglwysi eraill ym Meirion a sir Ddinbych, gan gynnwys Llanfachreth a Llansilin. Mae dau englyn ganddo yn Cefn Coch MSS. 210, 274. Priod y bardd (ni wyddys y lle na'r amser) oedd Elizabeth, a chofnodir bedydd merch iddynt, Lowri ar 16 Medi 1678. Preswyliai'r bardd yn Tynllwyn-isaf. Yn ôl cofrestr plwyf Llangar, claddwyd ef yno 24 Rhagfyr 1679 yn 48 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.