PARRY, WILLIAM (1719 - 1775?), swyddog gwladol, ac ysgrifennydd y Cymmrodorion

Enw: William Parry
Dyddiad geni: 1719
Dyddiad marw: 1775?
Rhiant: Elizabeth Parry (née Thomas)
Rhiant: John Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog gwladol, ac ysgrifennydd y Cymmrodorion
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1719, yn bedwerydd mab i John Parry, Gwredog (o deulu Pendref, Rhodogeidio ger Llannerch-y-medd - J. E. Griffith, Pedigrees, 346), a'i wraig Elizabeth (Thomas), o Drefor yn Llansadwrn. Geilw'r Morysiaid ef yn 'gâr,' ar ba sail nid yw'n eglur; ond yn sicr y mae gyrfa Parry (yn y cyfnod y gwyddom ddim amdani) yn cydredeg yn awgrymog â gyrfa Richard Morris yn y gwasanaeth gwladol. Yr oedd gyda Richard yn swyddfa'r llynges yn 1747-53; bu yn yr 'Ordnance Office' 1753-5; ac aeth i'r Mint yn 1755 - yr oedd yn ' Comptroller's Deputy and Clerk ' yno. Ond yn 1757, heb golli ei swydd yn y Mint, dychwelodd i swyddfa'r llynges, yn ' Under Clerk for Foreign Accounts,' h.y. yn adran Richard Morris - y mae'n eglur oddi wrth lythyr gan Richard yn 1767 mai Parry oedd ei ddirprwy, oblegid dywed na allai'r ddau fod yn absennol o'r swyddfa gyda'i gilydd. Cydd-daliodd Parry ei ddwy swydd weddill ei oes. Diflanna ei enw o'r rhestrau swyddogol ar ôl 1775, a'r tebyg yw mai yn 1775 y bu farw. Pan ddywed J. E. Griffith iddo farw ' 23 Hydref 1755,' y mae'n bur sicr mai gwall argraff am 1775 yw'r ' 1755.' Gwyddom fod Parry 'n fyw yn 1773, pan enwyd ef yn un o sgutorion Richard Morris, a gwyddom ei fod wedi marw cyn i arg. 1778 o Osodedigaethau'r Cymmrodorion ddyfod allan. Yr oedd yn briod â ' hen forwyn ' (beth bynnag yn union a olyga'r geiriau), ond yn ddi-blant (Additional Morris Letters, 773). Bu'n ysgrifennydd y Cymmrodorion o 1755 (pan fu farw Daniel Venables, yr ysgrifennydd cyntaf) hyd ei farw. Ymuna pawb i'w ganmol am ei radlonrwydd a'i gymwynasgarwch. Bu'n neilltuol garedig wrth Oronwy Owen; iddo ef y canodd Goronwy ' Gywydd y Gwahawdd ' (1755 i'w wadd i Northolt, ac y mae dau lythyr ato yn arg. J. H. Davies o lythyrau Goronwy, a sawl cyfeiriad mewn llythyrau eraill, e.e. yn llythyr olaf Goronwy (1767) at Richard Morris, ac yn llythyr olaf Richard at y bardd (1772-3; Additional Morris Letters, ibid.). Na chymysger ef â William Parry arall, llongwr, a enwir yn fynych yn llythyrau'r Morysiaid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.